Mae ColegauCymru yn falch o nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2025, a gynhelir rhwng 12 - 18 Mai, trwy ddathlu'r gwaith hanfodol y mae colegau addysg bellach ledled Cymru yn ei wneud i gefnogi iechyd meddwl a lles.
Mae thema eleni, Cymunedau, yn tynnu sylw at bwysigrwydd amgylcheddau diogel a chefnogol ar gyfer iechyd meddwl cadarnhaol - rhywbeth y mae colegau'n helpu i'w feithrin bob dydd. Boed ar gyfer dysgwyr, staff, neu'r gymuned ehangach, mae creu ymdeimlad o berthyn a chysylltedd wrth wraidd bywyd coleg.
Cefnogi Lles Trwy Les Actif
Trwy fentrau fel ein prosiect Lles Actif, a gefnogir gan Chwaraeon Cymru, mae colegau Addysg Bellach yn dod o hyd i ffyrdd arloesol o hyrwyddo gweithgaredd corfforol a lles. Cymerodd dros 5,000 o ddysgwyr ran mewn gweithgareddau Lles Actif yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24, gan helpu i wella canlyniadau iechyd meddwl ac adeiladu cymunedau coleg cryfach.
Nid yw ein gwaith yn dod i ben yno. Y gwanwyn hwn, cynhaliodd Colegau Cymru gyfres o Fforymau Lles Actif rhanbarthol o dan y thema Amgylcheddau Ffyniannus, gan ddod ag arweinwyr y sector ynghyd i rannu arfer da ar ddulliau ataliol o ymdrin ag iechyd meddwl trwy weithgarwch corfforol.
Fodd bynnag, mae heriau'n parhau. Mae colegau wedi gweld cynnydd o 40% mewn atgyfeiriadau iechyd meddwl ers 2022/23, gan roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau oherwydd cyllidebau tynn. Mae cyllid cynaliadwy, hirdymor yn hanfodol i sicrhau y gall colegau barhau i gefnogi dysgwyr a staff gyda'u hiechyd meddwl a'u lles.
Digwyddiad Aml-chwaraeon Pen-bre: Dathliad o Gymuned a Lles
Fel rhan o'n dathliadau, rydym yn cynnal digwyddiad duathlon aml-chwaraeon ym Mharc Gwledig Pen-bre ar 14 Mai 2025. Wedi'i gefnogi gan lu o bartneriaid, bydd y digwyddiad cynhwysol hwn yn croesawu tua 400 o gyfranogwyr o wyth coleg ar draws 14 campws.
Mae'r digwyddiad yn ddathliad o ysbryd cynhwysol addysg bellach yng Nghymru, gyda dros 40% o gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. O ddysgwyr sgiliau byw'n annibynnol i gystadleuwyr elitaidd, mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle i bawb fod yn actif, meithrin cyfeillgarwch, a theimlo'n rhan o gymuned fywiog.
Edrych tua'r dyfodol
Mae'r cysylltiad rhwng addysg, lles, a chanlyniadau bywyd hirdymor wedi'i hen sefydlu. Drwy fuddsoddi mewn mentrau iechyd meddwl ataliol heddiw, gallwn helpu i adeiladu Cymru iachach a mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.
Bydd ColegauCymru yn parhau i hyrwyddo'r angen am fuddsoddiad cynaliadwy mewn cefnogaeth iechyd meddwl a lles ar draws y sector addysg bellach - gan sicrhau bod gan ddysgwyr a staff y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu.
Wrth i ni ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, cawn ein hatgoffa bod adeiladu cymunedau cryf a chefnogol yn hanfodol ar gyfer iechyd meddwl da. Mae ein colegau ar flaen y gad, gan greu amgylcheddau lle gall pob dysgwr ac aelod o staff deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cysylltu, a'u bod yn gallu cyrraedd eu potensial llawn.
Gwybodaeth Bellach
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
12 - 18 Mai 2025
Strategaeth Lles Actif ColegauCymru
2020 - 2025