Dathlu Cynllun Cymraeg Gwaith yn ystod Wythnos Addysg Oedolion

Cymraeg Gwaith Logo.png

Fel rhan o ddathliadau Wythnos Addysg Oedolion yr wythnos hon, rydyn ni’n rhannu rhai straeon o oedolion yn dysgu Cymraeg ar ein cynllun Cymraeg Gwaith. Dyma stori Fiona.  
 
Darlithydd Gwyddoniaeth yw Fiona, ac mae hi’n dysgu ar y rhaglen Mynediad at Addysg Uwch.

Mae hi yn ei hail flwyddyn o Gymraeg Gwaith yn gweithio ar lefel Sylfaen, ac mae hi wedi gwneud llawer o gynnydd yn ystod yr amser yma, ac wedi ehangu ei defnydd o’r iaith Gymraeg. 

Yn y gwaith, mae Fiona’n defnyddio’r Gymraeg wrth siarad ac ysgrifennu. Mae hi’n siarad Cymraeg gyda’i dysgwyr sy’n siarad neu sy’n dysgu Cymraeg, ac mae hi’n annog ei dysgwyr i ddysgu Cymraeg hefyd – mae tri o’i dysgwyr wedi ymuno â’r cwrs blasu Cymraeg i ddysgwyr llawn amser. 
 
Mae hi wedi rhannu rhestrau o dermau gwyddoniaeth arbenigol gyda’i dysgwyr, a hefyd wedi dod o hyd i adnoddau a rhannu adnoddau cyfrwng Cymraeg o wefan CBAC fel cymorth i’w siaradwyr iaith gyntaf. Mae hi’n rhoi adborth yn ddwyieithog ar waith ei dysgwyr os ydyn nhw’n siarad Cymraeg neu beidio ac yn cynnwys y Gymraeg yn ei hadnoddau dysgu a thaflenni gwaith. 
 
Tu allan i’r gwaith, mae Fiona yn gwneud llawer o waith annibynnol, mae hi’n siarad Cymraeg gyda’i nithoedd ifanc sy’n mynd i’r ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae hi’n darllen (a chanu!) yn Gymraeg gyda nhw yn wythnosol, ac wedi dweud bod hi’n dysgu llawer oddi wrthyn nhw. 
 
Mae diddordeb mawr gyda Fiona mewn cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg, ac mae hi’n rhannu clipiau fideo o ganeuon mae hi’n hoffi, yn ogystal ag eitemau newyddion diddorol ar dudalen Cymuned Dysgu Cymraeg staff y coleg. Mae hi’n mwynhau gwrando ar “Welsh of the West End” a Caryl Parry Jones. 
 
Mae brwdfrydedd Fiona dros ddysgu Cymraeg yn ysbrydoliaeth, ac mae hi’n cefnogi eraill i ddysgu hefyd. 

Gwybodaeth Bellach

Nia Brodrick, Rheolwr Prosiect Cymraeg Gwaith ColegauCymru
Nia.Brodrick@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.