"Mae Cerys wedi bod o fudd i waith Chwaraeon ColegauCymru"

12.06.15 MH College Sports Cardiff 42.JPG

Hoffai ColegauCymru ddymuno’n dda i Cerys Davies ar gyfer cam nesaf ei haddysg a’i dilyniant gyrfa ym myd addysg, chwaraeon ac Iechyd a Lles ar ôl i’w interniaeth gyda ni ddod i ben.

Cerys,

“Roeddwn digon ffodus i fod yn Lysgennad Ifanc yn ystod fy amser yn yr Ysgol Uwchradd, roedd hyn yn bennaf oherwydd fy angerdd tuag at chwaraeon. Ar ôl ysgol, es i Prifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Chwaraeon ac Addysg Gorfforol lle roeddwn yn gallu parhau fy siwnre fel llysgennad drwy ymuno â’r gymdeithas Llysgenhadon Ifanc Uwch Addysgol ochr yn ochr â fy nghwrs.

Mae bod yn lysgennad wedi fy ngalluogi i elw a datblygu sgiliau fel prydlondeb, arweinyddiaeth a gweithio fel tîm. Rwyf hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau a chysylltiadau o fewn y maes chwaraeon sydd wedi bod yn werthfawr yn ystod fy interniaeth.

Mae gweithio gyda ColegauCymru ar yr interniaeth Santander wedi bod yn gyfle arbennig i mi roi fy sgiliau i ddefnydd ac i gynnydd fy mhrofiadau. Nid yn unig yw’r interniaeth wedi gadael i mi ehangu fy rhwydwaith o fewn byd y colegau, mae hefyd wedi gadael i mi wneud ffrindiau a chyfarfod pobl newydd.

Yn ystod yr interniaeth, rwyf wedi cynyddu ar fy sgiliau y byddaf yn eu defnyddio yn ystod fy mywyd. Er enghraifft, sgiliau cyfathrebu a threfniadol. Rwyf wedi bod yn gyfrifol am y cyfrifon Trydar ac Instagram sydd wedi fy ngalluogi i uwchraddio fy sgiliau cyfryngau cymdeithasol. Rwyf hefyd yn credu fod fy sgiliau technolegol wedi gwella gan fy mod wedi bod yn cyfathrebu a gweithio yn benodol drwy ddefnyddio fy nghyfrifiadur.

Rwyf wedi gallu ehangu ar fy nysgu ac wedi bod yn rhan o datblygu prosiectau cyffrous newydd yn ystod fy mhrofiad gyda Colegau Cymru. Rwyf wedi bod yn ran o ddatbglyu cynllun blynyddol, cofnodi munudau cyfarfodydd, cyflwyno gwahanol wybodaeth a helpu creu canllaw cyfathrebu ar gyfer darlithwyr coleg yn ogystal a tasgau eraill.

Er gwaethaf y pandemic a’r cyfyngiadau a osodwyd, rwyf wedi mwynhau fy mhrofiad ac wedi ennill gwybodaeth gwerthfawr, cyfeillgarwch a sgiliau. Hoffaf ddiolch i Rob a gweddill tîm Colegau Cymru am y profiad. Rwyf yn yn hapus i argymell yr interniaeth.”

Rob Baynham, Cydlynydd Chwaraeon ColegauCymru

“Mae Cerys wedi cydweithredu'n agos â'n cydweithwyr Datblygu. Rydym yn ddiolchgar am ei chyfraniad i'r Rhaglen Lles Gweithredol, yn enwedig yn ystod y cyfnod ansicr a heriol hwn.”

Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru

"Mae Cerys wedi bod o fudd i waith Chwaraeon ColegauCymru. Rydym yn falch iawn i’w llongyfarch ar ennill Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Rydym yn dymuno'r gorau iddi yn ei hymdrechion yn y dyfodol.”

Aled Davies, Swyddog Datblygu Youth Sport Trust

“O fy safbwynt i, mae dy interniaeth wedi bod yn fuddiol iawn, yn enwedig i helpu fy nghysylltu i, Youth Sport Trust a’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc gyda cholegau yng Nghymru. Rwyt wedi helpu codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd rydym yn darparu i golegau a phobl ifanc, gan eu hepu i alinio Strategaeth Lles Acift Colegau Cymru yn well.”

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.