Cais am eglurder ar gynlluniau ailagor colegau addysg bellach o fis Medi

Yn dilyn datganiad heddiw ar ddychwelyd ysgolion yng Nghymru ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb, edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r Gweinidog Addysg a’i swyddogion Llywodraeth wrth i ni aros am arweiniad penodol ar gyfer y sector addysg bellach (AB). Bydd yn hanfodol inni dderbyn yr eglurhad hwn erbyn yr wythnos nesaf fan bellaf o ystyried y bydd colegau yn ailagor ar yr un diwrnod ag ysgolion ac y bydd angen cymaint o amser â phosibl i baratoi.

Rhaid i'r ddarpariaeth ar gyfer colegau AB fod yn wahanol i ddarpariaeth ysgolion

Gyda grŵp amrywiol o ddysgwyr, o alwedigaethol i Safon Uwch, bydd yn hanfodol bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau eu bod yn dychwelyd yn ddiogel i ddysgu wyneb yn wyneb. Mae ColegauCymru ar ran ein haelodau yn gofyn am eglurder ac arweiniad cyn gynted â phosibl. Er bod y sectorau ysgolion ac AB yn wahanol, rydym yn siomedig nad yw'r ddarpariaeth ar gyfer AB wedi cael ei hegluro ar yr un pryd ag ysgolion, yn enwedig gan fod y sector eisoes yn nodi dryswch a chamddealltwriaeth ymhlith dysgwyr a rhieni.

Ystyriaethau allweddol

Mae yna feysydd allweddol i’w hystyried yn y broses hon, a dim mwy na chyllid i liniaru peth o’r difrod a wnaed eisoes i addysg pobl ifanc gan bandemig Covid19. Maent yn cynnwys:

 

  • Cefnogaeth ar gyfer oedolion ifanc a dysgwyr dros 19 oed, gan na fydd llacio’r rheolau pellhau cymdeithasol a gyhoeddwyd ar gyfer ysgolion bob amser yn briodol mewn cyd-destun coleg.
  • Cydnabod y gost ychwanegol o sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer nifer uwch o ddysgwyr ar y campws. Bydd cofrestriad blynyddol 2020/21 yn debygol o gynyddu wrth i nifer o ddysgwyr galwedigaethol cyfredol ddychwelyd ym mis Medi i gwblhau eu cymwysterau ac i ennill eu tystysgrifau Trwydded i Ymarfer.
  • Fel mewn ysgolion, bydd angen cefnogaeth benodol ar gyfer dysgwyr nad oeddent efallai wedi derbyn y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt mewn TGAU neu Lefel UG ac eisiau’r cyfle i ail-sefyll.
  • Bydd angen cyllid ychwanegol hefyd i ddiwallu anghenion penodol y nifer o ddysgwyr anghenion dysgu ychwanegol (ALN) a Sgiliau Byw Annibynnol (ILS).

Mae’r enghreifftiau hyn yn dod â materion logistaidd digynsail fel trafnidiaeth, gofynion parhaus y cyrff dyfarnu, a darpariaeth cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. A chydag ychydig dros 6 wythnos cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae'n hanfodol i'n haelodau dderbyn arweiniad i allu cynllunio'n briodol. Mae'n hanfodol bwysig nad yw anghenion penodol y grŵp amrywiol hwn o ddysgwyr yn cael eu hanwybyddu, ac i sicrhau eu diogelwch hwy a diogelwch staff a'r gymuned ddysgu ehangach.

Cydweithio

Rydym yn dawel ein meddwl bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi rhoi anghenion a diogelwch dysgwyr wrth wraidd eu prosesau penderfynu. Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda nhw wrth iddyn nhw barhau i wneud hynny. Ac at ailddechrau dysgu academaidd a galwedigaethol ar draws colegau addysg bellach Cymru.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.