Y gwanwyn hwn, cynhaliodd Colegau Cymru gyfres o Fforymau Lles Actif rhanbarthol, gan ddod â staff o golegau addysg bellach ledled Cymru ynghyd i gydweithio, rhannu arfer gorau, a hyrwyddo mentrau iechyd a lles sy'n cefnogi amgylcheddau coleg ffyniannus.
Wedi'u cynnal mewn tri lleoliad ledled Cymru, roedd y fforymau'n adeiladu ar ein hymrwymiad i wella lles dysgwyr a staff trwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Darparodd y digwyddiadau blatfform hanfodol i arweinwyr lles, staff chwaraeon, dysgwyr coleg a sefydliadau partner allanol gysylltu ââ myfyrio ar eu nodau cyffredin o adeiladu amgylcheddau mwy actif a chynhwysol.
Archwiliodd pob fforwm rhanbarthol heriau a chyfleoedd lleol, gyda sesiynau'n tynnu sylw at arfer arloesol, yn rhoi sylw i lais y dysgwr, ac yn annog colegau i gydweithio ar brosiectau lles yn y dyfodol.
Yn Ne-orllewin Cymru, roedd y fforwm a gynhaliwyd yng Ngholeg Sir Gâr yn Llanelli yn cynnwys cyflwyniadau allweddol gan awdurdod lleol Sir Gâr ar ddatblygiad Pentre Awel - yn tynnu sylw at ddatblygiad lles yn y dyfodol yn yr ardal. Ochr yn ochr â hyn roedd cyflwyniadau gan Platfform ar ddulliau perthynol i wella iechyd meddwl, a'r Urdd - ar gyfleoedd yn y gweithlu. Rhannodd staff y coleg a llysgenhadon lles eu profiadau o ddatblygu gweithgaredd ar gyfer dysgwyr addysg bellach.
Daeth fforwm Gogledd Cymru, a gynhaliwyd ar Gampws Llangefni Grŵp Llandrillo Menai, â cholegau o bob cwr o Ogledd Cymru ynghyd gyda ffocws rhanbarthol ar gynyddu gweithgarwch corfforol a datblygu'r gweithlu. Cefnogwyd y drafodaeth gan sgyrsiau gan CIMSPA, Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ac Actif Gogledd Cymru ynghyd â mewnwelediad gan dîm Lles Actif y Coleg.
Yn Ne-ddwyrain Cymru, cynhaliwyd fforwm olaf y gyfres yn Y Coleg Merthyr Tudful, lle'r oedd ffocws ar ddatblygu gweithgareddau ar gyfer dysgwyr benywaidd a chreu partneriaethau i ddatblygu gweithlu llwyddiannus. Roedd y cyfranwyr yn cynnwys Platfform, Chwaraeon Cymru, Active Merthyr a Chymdeithas Chwaraeon Cymru gyda chyflwyniadau ychwanegol gan staff lles actif y coleg a dysgwyr chwaraeon.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon Colegau Cymru, Rob Baynham,
“Mae’r fforymau rhanbarthol wedi bod yn gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd, rhannu arferion arloesol, a dysgu o leisiau staff a dysgwyr. Maent wedi darparu momentwm go iawn wrth i ni edrych ymlaen at gam nesaf ein Strategaeth Lles Actif. Bydd y mewnwelediadau a gesglir yn allweddol wrth lunio dull newydd, sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, sy’n grymuso colegau i ymgorffori lles wrth wraidd eu diwylliant a’u harferion i yrru newid parhaol ar draws y sector.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Colegau Cymru, David Hagendyk,
“Roedd y digwyddiadau hyn wedi’u hategu gan y gred bod colegau’n ganolog i greu cymunedau iachach a mwy gwydn. Rydym yn gwybod bod dysgwyr iachach yn gallu ymgysylltu, cyflawni a chyfrannu’n well - nid yn unig o fewn addysg, ond yn y gweithlu a chymdeithas ehangach. Drwy gysylltu ymarferwyr ledled y wlad, helpodd y fforymau i ysbrydoli, cymell a chryfhau’r ymdrech ar y cyd i wneud lles yn golofn allweddol o addysg bellach yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol os ydym o ddifrif ynglŷn ag adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy ffyniannus lle gall pawb ffynnu.”
Roedd yr adborth o bob un o'r tri rhanbarth yn hynod gadarnhaol, gyda llawer yn tynnu sylw at werth cysylltu â chyfoedion a chael mynediad at offer a syniadau ymarferol i'w cymryd yn ôl i'w sefydliadau eu hunain.
Mae ColegauCymru yn ddiolchgar i'r holl golegau, staff a dysgwyr sy'n cymryd rhan am eu cyfraniadau. Edrychwn ymlaen at barhau â'r gwaith hwn gyda'n gilydd i sicrhau bod gan bob dysgwr ac aelod o staff yng Nghymru’r cyfle i ffynnu.
Gwybodaeth Bellach
Strategaeth Lles Actif ColegauCymru
2020 - 2025
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru
Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk