Galw ColegauCymru am drawsnewid pwrpasol yn addysg bellach er mwyn cryfhau economi Cymru a chodi sgiliau’r genedl

Manifesto 2026 Main Page Banner CYM.png

Mae ColegauCymru heddiw wedi lansio ein Maniffesto ar gyfer etholiad Senedd 2026, gan nodi gweledigaeth feiddgar a thrawsnewidiol ar gyfer Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru. Mae'r Maniffesto yn amlinellu tair cenhadaeth: 

Cenhadaeth 1: Tyfu'r economi drwy arfogi diwydiant a'r gweithlu â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer economi sy'n newid ac sy'n cael ei llunio gan sero net a deallusrwydd artiffisial. 

Cenhadaeth 2: Gwella dilyniant, cyfranogiad a chanlyniadau mewn addysg ôl-16 drwy chwalu rhwystrau a darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel. 

Cenhadaeth 3: Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau a thlodi drwy addysg i oedolion a mynediad at ddysgu ail gyfle. 

GWYBODAETH ALLWEDDOL

Er mwyn cyflawni'r cenadaethau hyn, ac ail-gydbwyso'r system addysg gydag addysg bellach wrth ei chalon, rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ar frys: 

  • ymrwymo i gylch ariannu aml-flwyddyn i roi'r diogelwch i golegau dyfu'n gynaliadwy, i ariannu staff bugeiliol hanfodol, i gwrdd â chostau chwyddiant ac i gyrraedd ein targed o 125,000 o brentisiaethau erbyn diwedd tymor nesaf y Senedd; 

  • diwygio'r system drafnidiaeth dysgwyr, gan ddod â'r ‘loteri cod post’ sy'n niweidio symudedd cymdeithasol i ddysgwyr i ben; a 

  • chyflawni Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau economaidd a diwydiannol Cymru - sy'n hanfodol i sicrhau bod yr holl rhanddeiliaid yn cydweithio i yrru twf economaidd a sicrhau bod gan Gymru'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer heddiw ac ar gyfer y dyfodol. 

Mae'r Maniffesto yn galw am bartneriaeth gryfach, wedi'i hail-fywiogi rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector addysg bellach, gan gydnabod yn glir fod colegau'n sefydliadau allweddol sydd wedi'u hangori yn eu cymunedau lleol ac yn hanfodol ar gyfer newid cadarnhaol. Mae'n cynnig diwygiadau brys i ail-gydbwyso'r system addysg a rhoi addysg bellach wrth ei chalon; gwella canlyniadau dysgwyr a datgloi potensial sgiliau i yrru ffyniant ledled Cymru. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru a Phennaeth a Phrif Weithredwr Y Coleg Merthyr Tudful, Lisa Thomas, 

“Mae llwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol yn gorwedd ym mhotensial ein pobl sydd heb ei wireddu. Buddsoddi mewn sgiliau yw’r allwedd i roi hwb i dwf a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Mae colegau’n falch o’u rôl mewn cymunedau lleol - boed yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i addysg uwch, i gael mynediad at brentisiaethau, neu i uwchsgilio ac ailhyfforddi yn barod ar gyfer swyddi a chyfleoedd newydd. Mae ein sector yn barod i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau; mae angen i’n llywodraeth gwrdd â ni yno - gyda’n gilydd gallwn adeiladu Cymru sy’n barod ar gyfer y dyfodol.” 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Mae’r Maniffesto hwn yn alwad i weithredu. Bydd tymor nesaf y Senedd yn un diffiniol ar gyfer dyfodol Cymru, a rhaid i golegau fod wrth wraidd y dyfodol hwn. Mae angen dull newydd sy’n cael ei yrru gan genhadaeth arnom sy’n grymuso’r sectorau addysg bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith i gyflawni newid gwirioneddol a pharhaol. Gyda’r buddsoddiad a’r bartneriaeth gywir, gall ein sector helpu i adeiladu Cymru decach, fwy gwyrdd a mwy llewyrchus.” 

Mae'r Maniffesto hwn yn tynnu sylw at yr angen brys am sefydlogrwydd ariannol hirdymor yn y sector, gan gynnwys cyllid cynaliadwy ar gyfer cefnogaeth fugeiliol, darpariaeth iechyd meddwl, a dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Wrth i Gymru edrych ymlaen at dymor nesaf y Senedd, mae ColegauCymru yn barod i weithio gyda phob plaid wleidyddol i sicrhau bod addysg bellach n parhau i fod yn ganolog i adeiladu cenedl gryfach, decach a mwy gwydn. 

Am ragor o wybodaeth ac i ddarllen y Maniffesto llawn, ewch i www.colegau.cymru  

#Senedd2026

Bydd tymor nesaf y Senedd yn gyfnod diffiniol ar gyfer dyfodol Cymru. Bydd heriau sero net, cyflawni twf economaidd cynaliadwy, newid technolegol cyflym, a gofynion newydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn siapio dyfodol Cymru am genhedlaeth.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.