Mae ColegauCymru wedi croesawu’r cyfle i ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i lwybrau addysg a hyfforddiant ôl-16. Mae’r galw am addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith ar gynnydd ledled Cymru - dros y flwyddyn ddiwethaf mae cofrestriadau addysg bellach yn y grŵp oedran 16-18 wedi cynyddu 8.27%. Mae ColegauCymru yn galw am Strategaeth Addysg Alwedigaethol (Strategaeth VET) genedlaethol i gysylltu addysg a hyfforddiant galwedigaethol â blaenoriaethau economaidd a diwydiannol Cymru.
Byddai strategaeth VET genedlaethol yn darparu fframwaith arweiniol ar gyfer Cymwysterau Cymru, cyrff dyfarnu a darparwyr, a byddai’n sicrhau bod llinell glir o atebolrwydd democrataidd o fewn y system.Dylai’r strategaeth hon fynegi athroniaeth Cymru ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys pwysigrwydd asesu priodol, symud tuag at ffocws ar symud ymlaen i waith, sicrhau llais cryf i ddysgwyr a chyflogwyr, a chaniatáu i golegau fodloni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol. Ar draws pob lefel, mae angen i lwybrau gefnogi dysgwyr a’u dilyniant, ac ni ddylai’r llwybrau o reidrwydd gael eu llywio gan gymwysterau.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Dave Hagendyk,
“Rydym yn falch o gael y cyfle i ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Lwybrau i addysg a hyfforddiant ôl-16.
Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i’r sector, ac mae gennym gyfle yn awr i sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cael mynediad at y llwybr addysg sy’n iawn iddyn nhw. Mae’n hanfodol bod pob dysgwr yn gallu cael mynediad at gyngor ac arweiniad annibynnol ar addysg ôl-16, fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus sy’n iawn ar gyfer eu taith a’u dyheadau. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i ailadrodd ein galwad am Strategaeth Addysg Alwedigaethol i Gymru a fydd yn dod â phob rhan o’r llwybr ynghyd.
Mae hwn hefyd yn gyfle i’r Pwyllgor ddeall ehangder a dyfnder y gwaith sy’n cael ei wneud mewn addysg bellach ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a darparu cymorth iechyd meddwl a lles i ddysgwyr. Mae’r gwaith hwn wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru ond wrth symud ymlaen bydd angen cynllunio hirdymor a chymorth ariannol er mwyn i wasanaethau fod yn gynaliadwy.”
Gwybodaeth Bellach
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru
Llwybrau i addysg a hyfforddiant ôl-16
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 27 Ionawr 2025
ColegauCymru
Llunio dyfodol addysg a hyfforddiant galwedigaethol
Ebrill 2023
Clare Williams, Swyddog Polisi
Clare.Williams@ColegauCymru.ac.uk