Adolygiad diwedd tymor ColegauCymru

pexels-valeria-vinnik-246351.jpg

Rydym wedi cael tymor yr Hydref prysur yma yn ColegauCymru! Wrth i ni baratoi ar gyfer gwyliau’r Nadolig, rydym yn myfyrio ar weithgareddau’r pedwar mis diwethaf. 

Roedd yn bleser gennym groesawu ein Prif Weithredwr newydd, David Hagendyk a fydd yn gweithio gyda’r sector i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd ac i sicrhau bod gennym system cymwysterau galwedigaethol sy’n addas ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â chanolbwyntio ar gyllid hirdymor sefydlog a theg ar gyfer y sector.

Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Rydym wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill cyn y cyfnod pontio i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) newydd. Bydd CTER yn dod a strategaeth, cyllid a throsolwg nid yn unig addysg bellach, ond addysg uwch, dysgu cymunedol, prentisiaethau a hyfforddiant, i gyd o dan un sefydliad o 2024. Byddwn yn parhau â’n gwaith gyda Llywodraeth Cymru ar y ddeddfwriaeth eilaidd a’r rheoliadau yn y flwyddyn newydd. 

Pwysau ariannol ar y sector Ar draws y sector mae pob sefydliad yn wynebu pwysau cyllidebol gwirioneddol. Rydym wedi tynnu sylw at ehangder a maint yr her hon, gan gynnwys cost gynyddol nwy a thrydan, pwysau penodol ar ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith, colli cyllid SPF, a’r angen am fuddsoddiad parhaus yn iechyd a llesiant dysgwyr. Dan arweiniad ein rhwydwaith o Gyfarwyddwyr Cyllid, mae’r sector wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar setliad ariannu teg i golegau. Mae’r sector yn wynebu heriau ariannol digynsail ac mae’n hollbwysig bod colegau’n parhau i gydweithio i gyflwyno’r achos dros fuddsoddiad rhesymol. 

Polisi a Materion Cyhoeddus 

Mae ein tîm Polisi a Materion Cyhoeddus wedi bod yn brysur dros y pedwar mis diwethaf gyda mis Medi’n ein gweld yn croesawu’r Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus newydd, Rachel Cable, i’r sefydliad. 

Cynhaliom gyfarfodydd ag Aelodau’r Senedd a staff eraill, i drafod blaenoriaethau’r sector addysg bellach. Fe wnaethom hefyd ymateb i amrywiaeth o ymgynghoriadau gan gynnwys Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, Datgarboneiddio’r Sector Cyhoeddus, Effaith Cynyddol Costau Byw, Dweud Eich Dweud am TGAU Cymwysterau Cymru, a Strategaeth Arloesedd Ddrafft Cymru. Rhoesom dystiolaeth lafar i dri ymchwiliad Pwyllgorau’r Senedd - Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch, Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a phwysau costau byw a’r Warant Pobl Ifanc. 

Mae tirwedd cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru yn newid. Ffocws mawr yn ein gwaith fu cefnogi a dylanwadu ar ansawdd cymwysterau newydd i sicrhau eu bod yn addas at y diben ar gyfer dysgwyr, ac i feddwl ymlaen at y dyfodol. Rydym yn parhau i weithio gyda Cymwysterau Cymru ar y newidiadau y credwn sydd eu hangen i rai o'r cymwysterau newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar. Mae hwn yn waith manwl sy’n tynnu ar arbenigedd staff o bob coleg ac mae’n enghraifft wych o werth y sector yn cael dull gweithredu cyfunol. 

Rydym yn parhau i ymgysylltu’n rhagweithiol â Bwrdd Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol Llywodraeth Cymru. Mae’r adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol, sy’n cael ei arwain gan y cyn Bennaeth addysg bellach, Sharon Lusher, yn gyfle pwysig i feddwl am y diwygiadau hirdymor sydd eu hangen yn ein barn ni, a’u llywio, ac i roi colegau wrth galon y system yn y dyfodol. 

Mae ein gwaith ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi symud ymlaen yn sylweddol. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth newydd ColegauCymru i edrych ar sut y gallwn gael effaith ystyrlon a chadarnhaol yn y sector addysg bellach. Yn yr un modd, fe wnaethom barhau i weithio gyda Black Leadership Group mewn ail brosiect i ddylunio templedi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth wedi'u teilwra i'w defnyddio gan sefydliadau addysg bellach, Addysg Oedolion a Darparwyr Prentisiaethau ledled Cymru. Bydd y prosiect hefyd yn darparu hyfforddiant i helpu i ddatblygu arfer gorau i gefnogi amcanion uchelgeisiol Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru. Mae Grŵp Llywio Gwrth-hiliaeth addysg bellach newydd Llywodraeth Cymru hefyd wedi'i sefydlu i ddatblygu'r gwaith pwysig hwn ymhellach. 

Rhyngwladol 

Ym mis Hydref lansiwyd ein Strategaeth Ryngwladoli a fydd yn cefnogi, cyfoethogi a gwella profiadau addysgu a dysgu. Cynlluniwyd y Strategaeth i gynyddu dyheadau dysgwyr a chodi proffil y gwaith rhyngwladol a wneir mewn addysg bellach. 

Cyflwynwyd ceisiadau am gyllid Llwybr 1 a 2 Taith. Os bydd y prosiectau'n llwyddiannus, byddant yn meithrin partneriaethau drwy brosiectau cydweithredol rhyngwladol ac yn datblygu allbynnau o safon i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd addysgol ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Bydd symudedd corfforol, rhithwir a chyfunol, allanol a mewnol ar gyfer unigolion a grwpiau hefyd yn rhoi cyfleoedd tymor byr a hirdymor hyblyg i ddysgu, astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor. 

Roedd yn bleser gennym lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda T-Hub yn Telengana, India, a Phrifysgolion Cymru, i ddatblygu cydweithrediad mewn ymchwil ac arloesi gyda diwydiant. 

Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) 

Mae’r Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth newydd ar gyfer colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith annibynnol yn ariannu’r gwaith o gyflwyno ‘dosbarthiadau meistr’ a/neu brosiectau ymchwil sydd wedi’u cynllunio i gyflymu ac adeiladu arbenigedd ar gyfer staff a chynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu dysgwyr mewn ystod o feysydd pwnc. 

Mae nawr gan bob coleg addysg bellach Biwro Cyflogaeth a Menter bwrpasol i helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer byd gwaith trwy eu cefnogi i ddod o hyd i swydd neu sefydlu busnes eu hunain. 

Datblygu cymwysterau newydd Er mwyn gwella ansawdd y ddarpariaeth a welwyd eisoes gyda’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu’r cymwysterau sy’n rhan o fframweithiau prentisiaeth, a chynnwys cyffredinol y fframweithiau eu hunain gan ganolbwyntio ar feysydd pwysig Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu Peirianneg, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae gwaith hefyd wedi dechrau i ddiwygio cynnwys a siâp fframweithiau prentisiaeth mewn meysydd rhaglen gan gynnwys gwasanaeth teithio a thwristiaeth, manwerthu, chwaraeon a hamdden, a lletygarwch ac arlwyo. 

Lles Actif 

Roeddem yn falch o gynnal cyfres o ddigwyddiadau llesiant actif rhanbarthol a oedd yn edrych ar sut y gallwn gynyddu gweithgaredd a lles dysgwyr addysg bellach mewn byd ôl-Covid. Gyda chefnogaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwell iechyd meddwl mewn addysg bellach, bydd ein digwyddiad Aml-chwaraeon addysg bellach blynyddol yn dychwelyd unwaith eto’r gwanwyn nesaf. 

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 

Cynhaliom gyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol a roddodd gyfle i arweinwyr ADY awdurdodau lleol a phartneriaid ystyried eu dyletswyddau i ddiwallu anghenion cymhleth dysgwyr ADY ôl-16 yng Nghymru. Wrth i ni ddechrau gweithredu’r Cod ADY newydd i Gymru, mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael mynediad cyfartal i addysg bellach, gyda’r digwyddiadau hyn yn amlygu pwysigrwydd cael dealltwriaeth gyson a rennir o’r Cod. 

Cymraeg Gwaith 

Parhaodd y Cynllun Cymraeg Gwaith, sy'n datblygu sgiliau Cymraeg darlithwyr mewn colegau addysg bellach, yn ei chweched flwyddyn. Mae’r Cynllun bellach yn cefnogi 400 o staff ar draws 11 coleg yn flynyddol ac yn cyfrannu at darged uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Cyflwynwyd cynllun peilot newydd, Cymraeg Gwaith+, a ariennir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, eleni, wedi’i ddylunio. helpu i gynyddu hyder staff i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae’r garfan gyntaf o staff Cymraeg Gwaith+ wedi cwblhau eu cwrs 10 wythnos gyda charfan newydd yn barod i ddechrau ym mis Ionawr. 

Ym mis Hydref fe wnaethom nodi wythnos #CaruEinColegau ac #WythnosAddysgOedolion lle buom yn dathlu ehangder gwych y gwaith ar draws ein colegau. 

Edrych Ymlaen 

Wrth i ni edrych ymlaen at y flwyddyn newydd, gyda’r pwysau parhaus o ran costau byw, mae ColegauCymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi ein haelodau i ganolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom unwaith eto gan ein rhanddeiliaid yn ystod tymor yr Hydref hwn. Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda chi i gyd yn 2023. Yn y cyfamser, rydym yn dymuno gwyliau Nadolig braf a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. 

Gwybodaeth Bellach 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.