ColegauCymru yn amlygu cyflwr y sector addysg bellach mewn ymgynghoriad ar y gyllideb ddrafft wrth i bwysau costau byw ddwysau

gas.jpg

Mae ColegauCymru wedi tynnu sylw at y pwysau ariannol cynyddol sy’n wynebu colegau addysg bellach yn ymgynghoriad diweddar Bwyllgor Cyllid y Senedd ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-2024. 

Wrth inni barhau i ymdopi â chyfnodau economaidd ansicr, fe wnaethom ailadrodd y dylid cydnabod ehangder a dyfnder yr anawsterau ariannol sydd o’n blaenau. Mae colegau’n wynebu amrywiaeth o heriau gwahanol i’w cyllidebau gweithredu cyffredinol, sy’n cynnwys costau ynni cynyddol, lleihau cyllid yr UE, diffyg eglurder ynghylch dyraniadau’r Gronfa Ffyniant a Rennir, a newidiadau i gyllidebu Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’r storm berffaith hon o ansicrwydd economaidd sy’n wynebu colegau yn ddigynsail. Mae’n hollbwysig bod gan y sector addysg bellach ddigon o gyllid i allu ymdopi â’r dirwasgiad, a’r llwybr i adferiad economaidd. 

Thema allweddol yn ein hymateb oedd pwysau costau byw. Mae'r graff yn dangos y cynnydd a ragwelir mewn prisiau ynni y bydd yn rhaid i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ei amsugno yn y blynyddoedd i ddod. Rhwng 2021/22 a 2022/23, disgwylir i gost trydan a nwy godi hyd at 56% a 51% yn y drefn honno. Erbyn 2023/24, o ganlyniad i'r ansicrwydd parhaus, rhagwelir y bydd cynnydd dramatig pellach. Disgwylir cynnydd o 164% mewn prisiau ynni o 21/22 i 23/24. 

Mae angen i drefniadau cyllido ar gyfer addysg bellach yn y dyfodol barhau i gwrdd â’r heriau gwirioneddol sy’n bodoli, nid yn unig o ganlyniad i Covid-19 ond hefyd pwysau chwyddiant cynyddol. Rhwng 2022-23 a 2023-34, bydd cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru £4bn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod. Bydd yr effaith y flwyddyn nesaf yn golygu colled mewn termau real o £1.5 biliwn. Er ein bod yn cydnabod yr amgylchiadau heriol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru, mae dull hyblyg o gefnogi’r sector addysg bellach yn ei gyllideb yn y dyfodol bellach yn hanfodol. 

Nid yn unig y mae'r costau cynyddol hyn yn cael effaith sylweddol ar sefydliadau addysg bellach, maent hefyd yn cynyddu'r pwysau ar staff a dysgwyr. Nododd ColegauCymru fod angen colegau a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith i gwrdd â chyflogau cynyddol y gweithlu sydd wedi’u cofrestru’n broffesiynol yn effeithio’n uniongyrchol ar gadw staff, yn enwedig y rheini sy’n dychwelyd i ddiwydiant lle mae cyflogau’n uwch. Roedd ein hymateb i’r ymgynghoriad hefyd yn adlewyrchu’r angen i’r gyllideb ystyried y ddeialog barhaus am setliadau cyflog mewn addysg bellach, gan gydnabod yr egwyddor hirsefydlog o gydraddoldeb cyflog rhwng athrawon mewn ysgolion a’r sector addysg bellach ôl-16 yng Nghymru. Amlygwyd ymhellach bwysigrwydd yr angen am sefydlogrwydd mewn cyllid gwyrdd i sicrhau bod colegau'n cael eu cefnogi wrth iddynt baratoi i fodloni'r galw presennol ac yn y dyfodol am ddatblygu sgiliau gwyrdd a diogelu'r gweithlu at y dyfodol - rhan o'r Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net. 

Er bod cynnydd mewn cyllid dros y blynyddoedd diwethaf wedi'i groesawu, dylid ystyried effaith chwyddiant. Mae’n hanfodol bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach 2023-24 yn ddigonol ac yn hyblyg, er mwyn gallu ymdrin â’r heriau sydd o’n blaenau.

Gwybodaeth bellach 

Senedd Cymru 
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 

Jamie Adair, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus 
Jamie.Adair@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.