Colegau Cymru yn ymateb i ostyngiad o 12% mewn prentisiaethau newydd

Cardiff Bay at Night.jpg

Mae data newydd a gyhoeddwyd gan Medr yn dangos gostyngiad o 12% mewn prentisiaethau a ddechreuwyd y chwarter hwn, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Mae’r data’n atgof clir o’r heriau cyllidebol difrifol sy’n wynebu colegau. Mae’r gostyngiad o 12% mewn prentisiaethau a ddechreuwyd yn golygu bod 960 o gyfleoedd wedi’u colli i ddysgwyr posibl elwa o brentisiaeth. Yn y sector adeiladu, mae prentisiaethau newydd wedi gostwng 22%, ac er bod y GIG mewn argyfwng ac yn edrych i adeiladu ei weithlu ar gyfer y dyfodol, mae’r data hwn yn dangos gostyngiad o 8% mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Mae’r data a gyhoeddwyd gan Medr heddiw yn peri pryder mawr, ac yn tanlinellu effaith ddinistriol toriadau cyllid prentisiaethau ar economi Cymru a’n cymunedau mwyaf agored i niwed. Mae rhaglen brentisiaethau cryf yn hanfodol ar gyfer adferiad economaidd Cymru, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion a busnesau i lwyddo. Mae prentisiaethau’n hanfodol i ddarparu swyddi gwyrdd a thwf, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru a Medr i ystyried penderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol yn ofalus i sicrhau bod gan bob dysgwr gyfle i lwyddo”. 

Gwybodaeth Bellach 

Cyhoeddiad Medr 
Sta/Medr/10/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2024 
7 Mai 2025 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.