ColegauCymru yn ymateb i Adolygiad Estyn o Ymddygiad Dysgwyr mewn Addysg Bellach

Female learner with laptop.jpg

Heddiw, mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad sy'n archwilio heriau ymddygiad mewn colegau addysg bellach yng Nghymru.  

Dywedodd Prif Weithredwr Colegau Cymru, David Hagendyk, 

“Fel mae’r adroddiad yn ei amlygu, mae ymddygiad mewn addysg yn her gymhleth a newidiol. Nid oes amheuaeth bod pandemig Covid-19 yn parhau i gael effaith ar les dysgwyr, ond dim ond un rhan o ddarlun cymhleth yw hwn. Mae pobl ifanc heddiw yn wynebu ystod o heriau cymdeithasol cydgysylltiedig, wedi’u gosod yng nghyd-destun argyfwng costau byw, a newidiadau technolegol sylweddol. 

Mae Estyn yn tynnu sylw at waith gwych nifer o golegau i reoli a gwella ymddygiad tra hefyd yn herio’r sector i barhau i symud ymlaen. Mae colegau’n gweithio’n ddiflino i sicrhau cefnogaeth i’w dysgwyr, gydag ystod eang o rolau a modelau cymorth bugeiliol yn esblygu mewn ymateb i anghenion cynyddol. Mae cael staff arbenigol sy’n ymroddedig i ofal bugeiliol yn ganolog i ddull effeithiol o wella ymddygiad. Nid yw gofal bugeiliol yn ddewisol - mae’n rhan hanfodol o fywyd coleg. Mae gwaith staff arbenigol nid yn unig yn newid bywydau ond yn eu hachub, ac mae sicrhau trefniadau ariannu hirdymor ar gyfer y sector colegau yn hanfodol i alluogi colegau i gefnogi dysgwyr. 

Mae dyfodol y gefnogaeth hon mewn perygl oherwydd diffyg cyllid hirdymor a chynaliadwy. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a Medr yn dod o hyd i ateb i'r her hon fel y gall colegau gadw staff arbenigol a pharhau i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddysgwyr. Mae cyllidebau colegau yn parhau i fod dan bwysau difrifol, ac mae heddiw yn gyfle i Lywodraeth Cymru a Medr ymrwymo i fynd i'r afael â heriau cyllid tymor byr sy'n llesteirio cynllunio strategol effeithiol yn ogystal ag achosi heriau wrth gadw staff medrus. Am gyfnod rhy hir mae colegau wedi gorfod llywio cyfres o botiau cyllid tymor byr. Rhaid i'r adroddiad hwn nodi trobwynt ac ysgogi ymdrechion newydd i ddod o hyd i ateb cyllid tymor hir.” 

Gwybodaeth Bellach

Estyn 
Adroddiad newydd yn rhybuddio bod heriau ymddygiadol yn cynyddu mewn colegau addysg bellach yng Nghymru 
1 Mai 2025  

Adroddiad Estyn 
Ymddygiad Dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach – Deall, Cefnogi a Hyrwyddo Ymddygiad Cadarnhaol 
1 Mai 2025 

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.