ColegauCymru’n nodi ei flaenoriaeth yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am adolygiad annibynnol o gyfres arholiadau haf 2020

Faceless young female writing.png

Nodwn gyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru o adolygiad annibynnol o’r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau cyfres arholiadau haf 2020, a’r ystyriaethau ar gyfer 2021.

Rydym yn awyddus i dynnu sylw at ein blaenoriaeth, sef rhoi sylw penodol i'r diffyg proses arholi a chymedroli sylweddol sydd wedi'i sefydlu ar gyfer Graddau Asesu Canolfannau cyn eu cyflwyno i'r cyrff dyfarnu. Wrth edrych ymlaen at yr adolygiad, mae ColegauCymru hefyd yn ceisio tynnu sylw at yr angen am aliniad gwell rhwng prosesau gwirio mewnol ac allanol, fel sydd eisoes ar waith ar gyfer cymwysterau galwedigaethol. Fel eiriolwr dros bob math o addysg ôl-16, mae'r elusen hefyd yn awyddus i weld yr adolygiad yn archwilio pam yr oedd cymwysterau academaidd yn cael eu hystyried yn gyson fel blaenoriaeth tra bod anghenion dysgwyr galwedigaethol yn aml yn cael eu hanwybyddu.

Gyda disgwyl adroddiad dros dro o ganfyddiadau allweddol ym mis Hydref ac adroddiad terfynol ac argymhellion i ddilyn yng nghanol mis Rhagfyr, ein pryder yw na fydd digon o amser i'r Senedd graffu'n briodol yn ei thymor hydref olaf, ac anogwn ystyriaeth bellach o hyn. Credwn hefyd y dylid sicrhau bod canfyddiadau dros dro ar gael cyn gynted â phosibl er mwyn dylanwadu ar y broses o addasu'r asesiad a'r cwricwlwm i'r heriau i'w hwynebu yn ystol blwyddyn academaidd 2020/21.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd Louise Casella yn arwain yr adolygiad. Rydym yn addo, fel sector, i gefnogi ei gwaith er mwyn dod i benderfyniad a fydd yn osgoi ailadrodd yr hyn a welsom yr haf hwn.”

Rydym nawr yn aros am fanylion pellach ac yn edrych ymlaen at gyhoeddi'r cylch gorchwyl.

Gwybodaeth Bellach

Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru:
Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad annibynnol o’r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau cyfres arholiadau haf 2020, a’r ystyriaethau ar gyfer 2021
28 Awst 2020

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.