ColegauCymru, Chwaraeon Cymru a Cholegau AB yn cefnogi Lles Actif cyn ystod y broses gloi

Rydym ni, Chwaraeon ColegauCymru, mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru wedi cyflwyno’r ymgyrch #CymruActif. Amcan yr ymgyrch hon yw i gadw Cymru’n symud yn ystod yr argyfwng Coronafirws. Os ydych yn chwilio am ymarfer ysgafn, neu dwys, mae nifer o ymarferion ar gyfer pawb i’w gael ar wefan #CymruActif. Mae arbenigwyr, athletwyr a gwynebau cyfarwydd wedi ymuno i ddarparu’r wlad hefo clipiau ymarfer, cynllun sesiynau, cymhelliant, rysaitiau maethlon a llawer mwy.

Gellir defnyddio’r Stategaeth Lles Actif Newydd i ddarparu cyfeiriad strategol i’r sector Addysg Bellach. Mae’n ddefnyddiol i annog pobl ifanc a staff y coleg i ddenfyddio dulliau gwahanol o fod yn fwy actif, yn ogystal ag adnabod cyswllt clir i wella lles unigolyn. ‘Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â’r colegau i hyrwyddo’r gweithgareddau a lles positif emosiynol, corfforol a chymdeithasol drwy ddefnyddio’r strategaeth newydd yma.

Dyma rhai engreifftiau o beth mae colegau wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfnod hunan-ynysu :

Mae Coleg Cambria yn sicrhau eu bod yn blaenoriaethu iechyd corfforol drwy ddefnyddio Rhaglen Cambria Heini sy’n ffocysu ar fuddion iechyd a lles da. Mae dosbarthiadau ffitrwydd ddyddiol i’w dysgwyr a staff. Maent hefyd yn cyflwyno ‘top tips’ dyddiol ar eu cyfrif Trydar, @ActiveCambria.

Mae dysgwyr sydd wedi cofrestru ar y Rhaglen Llysgenhadon Actif Grŵp Llandrillo Menai wedi bod yn cefnogi eu cymunedau lleol. Maent hefyd yn cefnogi GLlM Rygbi wrth gynllunio Calendar Lles wythnosol i gadw pawb yn iach yn feddyliol a chorfforol. Mae nifer o esiamplau o’r gwaith maent yn wneud ar eu Trydar, @GllmRygbi a @LlandrilloMenai.

Mae Llysgenhadon Ifanc (gorffennol a presenol) yn Grŵp NPTC wedi bod yn ffilmio gemau, ymarferion a sialensau dyddiol ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gellir gwylio’r cyfan ar dudalennau @nptcgetactive.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd wedi bod yn gwneud defnydd da o’u cyfryngau cymdeithasol. Maent wedi bod yn rhoi cyngor hunan-ynysu dyddiol, ac wedi lawrlwytho ymarferion fel HIIT, ioga a sesiynnau dawns i’w cyfrif Trydar @GCSActive i’r dysgwyr a staff roi cynnig arnynt.

Rydym yn gobeithio y bydd y colegau yn parhau i ddarparu’r cymorth anhygoel yma i’w dysgwyr, staff a’r gymuned. Dalier ati â’r gwaith da! Byddwn yn darparu mwy o engreifftiau’n fuan.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.