ColegauCymru yn cyflwyno cais Llwybr 1 Taith

pexels-natasa-dav-2885919.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o fod wedi cyflwyno cais ariannu Llwybr 1 Taith. 

Os bydd yn llwyddiannus, bydd y cais am £285,780.96 yn rhoi cyfleoedd i 143 o ddysgwyr a 57 o staff sy'n dod gyda nhw i ymweld â gwledydd gan gynnwys yr Almaen, Sbaen, yr Eidal, Ffrainc, UDA, Nepal, India a Gwlad Thai. 

Bydd y prosiectau'n cyflwyno grwpiau symudedd corfforol a chyfunol tuag allan ac i mewn, gan ddarparu cyfleoedd tymor byr i ddysgu, astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor. Bydd cyfleoedd hefyd ar gyfer 22 o symudiadau mewnol yn cwmpasu ystod o ddysgwyr o gyrsiau galwedigaethol, Safon Uwch, Sgiliau Byw’n Annibynnol ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 1 Rhagfyr 2022 a chyhoeddir y canlyniad ym mis Chwefror 2023. Bydd y gweithgareddau'n dechrau o 1 Mai 2023 gyda'r rhaglen yn rhedeg am 12 mis tan 30 Ebrill 2024. 

Gwybodaeth Bellach 

Mae Taith yn rhaglen newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ar draws y byd, wrth ganiatáu i sefydliadau yng Nghymru wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un peth yma yng Nghymru. Darganfyddwch fwy: www.taith.cymru

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.