ColegauCymru yn cyflwyno cais ariannu Llwybr 2 Taith ar gyfer prosiect ymchwil i ddiwygio cymwysterau galwedigaethol a gweithredu Deddf CTER

daniel-corneschi-N6HTCyN50p0-unsplash.jpg

ColegauCymru yn cyflwyno cais ariannu Llwybr 2 Taith ar gyfer prosiect ymchwil i ddiwygio cymwysterau galwedigaethol a gweithredu Deddf CTER. 

Bwriad Taith Llwybr 2 yw meithrin partneriaeth a chydweithio strategol drwy brosiectau cydweithredol rhyngwladol a datblygu allbynnau o safon yn canolbwyntio ar heriau a chyfleoedd addysgol ledled Cymru ac yn rhyngwladol. 

Nod ein cais, Prosiect Ymchwil ColegauCymru i Ddiwygio Cymwysterau Galwedigaethol a Gweithredu CTER, yw cefnogi’r adolygiad presennol o gymwysterau galwedigaethol sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd fel rhan o Gytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru. Mae'r cais hefyd yn ceisio blaenoriaethu trafodaethau parhaus ynghylch gweithredu Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER).  

Os yn llwyddiannus, bydd y prosiect ymchwil yn edrych i weld a oes gan sefydliad CTER potensial i hyrwyddo datblygiad Strategaeth Genedlaethol VET i Gymru, a’r hyn gallwn ddysgu gan wledydd eraill am sut i sicrhau integreiddiad di-dor o lywodraethu, cyllid, a goruchwylio addysg ôl-orfodol yng Nghymru o dan y Comisiwn. Bydd hefyd yn ceisio ystyried sut mae modelau gwahanol yn gweithio'n ymarferol i sicrhau cludadwyedd cymwysterau ein hunain. 

Mae gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys symudedd i’r Alban a’r Ffindir, tri gweithdy rhanbarthol a chynhadledd yng Nghymru, gyda phartneriaid rhyngwladol a rhanddeiliaid eraill yn y sector VET yng Nghymru. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion yw’r 1af o Rhagfyr 2022 a chyhoeddir y canlyniad ym mis Chwefror 2023.  

Gwybodaeth Bellach 

Mae Taith yn rhaglen newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ar draws y byd, tra’n caniatáu i sefydliadau yng Nghymru wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un peth yma yng Nghymru. Darganfyddwch fwy:

Mae Llwybr 2 Taith wedi lansio!
10 Hydref 2022 

Jamie Adair, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus 
Jamie.Adair@ColegauCymru.ac.uk  

Sian Holleran, Rheolwr Prosiect – Ewropeaidd a Rhyngwladol 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.