Dywedodd Prif Weithredwr Colegau Cymru, David Hagendyk,
“Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Mae ColegauCymru wedi galw ers tro am strategaeth i gysylltu addysg a hyfforddiant galwedigaethol â blaenoriaethau economaidd a diwydiannol Cymru.
Mae'r strategaeth yn gyfle i ddarparu fframwaith arweiniol ar gyfer Cymwysterau Cymru, cyrff dyfarnu a darparwyr, a bydd yn sicrhau bod llinell glir o atebolrwydd democrataidd o fewn y system. Dylai'r strategaeth fynegi athroniaeth Cymru ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys pwysigrwydd asesu priodol, symud tuag at ffocws ar ddilyniant i waith, sicrhau llais cryf i ddysgwyr a chyflogwyr, a chaniatáu i golegau fodloni blaenoriaethau lleol.
Ar draws pob lefel, mae angen i lwybrau gefnogi dysgwyr a'u dilyniant, ac ni ddylai'r llwybrau o reidrwydd gael eu gyrru gan gymwysterau. Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner i adeiladu system addysg a hyfforddiant galwedigaethol o'r radd flaenaf i Gymru”.
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
26 Mehefin 2025