Heddiw, mae ColegauCymru wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan Y Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell AS, yn Eisteddfod y Garreg Las am yr adolygiad o addysg uwch yng Nghymru.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw ar yr Adolygiad o Addysg Uwch yng Nghymru ac rydym yn cydnabod yr heriau penodol sy’n wynebu prifysgolion. Mae gennym ni i gyd ddiddordeb cyffredin mewn sector addysg uwch ffyniannus a llwyddiannus.
“Ni ellir ystyried yr heriau sy’n wynebu’r sector addysg uwch ar eu pen eu hunain, ac mae’n hanfodol nad yw unrhyw oblygiadau ariannu o’r adolygiad yn tanseilio sefyllfa ariannol addysg bellach.
“Mae’n hanfodol bod rôl colegau addysg bellach wrth ehangu cyfranogiad a diwallu anghenion sgiliau rhanbarthol yn cael ei hystyried fel rhan o’r adolygiad. Gall colegau gynnig darpariaeth hyblyg a hygyrch fel rhan o gymysgedd cyfoethog o addysg uwch ledled Cymru.”
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar yr Adolygiad o Addysg Uwch ac Academi Seren
4 Awst 2026
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk