ColegauCymru yn croesawu penodiad Cadeirydd ILEP

Faceless young female writing.png

Mae ColegauCymru wedi croesawu’n gynnes gyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod y cyn Weinidog Addysg, Kirsty Williams, i gadeirio Bwrdd Cynghori’r Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol (ILEP).

Cafwyd cadarnhad ym mis Mawrth 2021 y byddai’r Rhaglen newydd ar gael yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu'n ôl o'r Cynllun Erasmus+ poblogaidd.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

"Mae Ms Williams wedi bod yn gefnogwr o'r sector addysg bellach ers amser, felly mae croeso cynnes i'r cyhoeddiad. Mae gwerth rhaglenni cyfnewid rhyngwladol wedi bod yn hysbys ers amser maith, gan ddarparu cyfleoedd i ehangu gorwelion ei gyfranogwyr sydd yn ei dro yn rhoi effaith gadarnhaol ar unigolion, colegau a'r gymuned ehangach. Bydd y Rhaglen hon hefyd yn caniatáu inni gynnal ac adeiladu ar ein perthnasoedd â phartneriaid tramor." 

Ychwanegodd Sian Holleran, Rheolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru, 

“Mae rhaglenni tramor fel rhain yn darparu cyfleoedd gwych i ddysgwyr a staff. Mae'n arbennig o galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu'r cyfleoedd hyn dros y tymor hir. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu dull mwy strategol tuag at ein gwaith rhyngwladol ac archwilio rhyngwladoli yn ehangach yn y sector addysg bellach yng Nghymru.” 

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn edrych ymlaen at weithio gyda Ms Williams a'r bwrdd i sicrhau bod y rhaglen yn cyflawni dros Gymru. 

Gwybodaeth Ychwanegol 

Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu
21 Hydref 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.