ColegauCymru yn croesawu Gweinidogion newydd, ond yn rhybuddio am heriau o'n blaenau

2026 Senedd 1.jpg

Heddiw, penodwyd Cefin Campbell AS yn Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol Llywodraeth Cymru. Mae gan ColegauCymru hanes cryf o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i chwarae rhan gadarnhaol a rhagweithiol wrth sicrhau bod gennym sector addysg bellach cryf a gwydn. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Heddiw, rydym yn llongyfarch Cefin Campbell AS yn gynnes iawn ar ei benodiad yn Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau ac addysg drydyddol. Bydd tymor y Senedd hwn yn un diffiniol ar gyfer dyfodol Cymru. Bydd heriau sero net, cyflawni twf economaidd cynaliadwy, newid technolegol cyflym, a gofynion newydd ar wasanaethau cyhoeddus yn llunio dyfodol Cymru am genhedlaeth. Mae ColegauCymru a’n haelodau yn barod i weithio gyda thîm newydd Llywodraeth Cymru, ac mae’n hanfodol bod y cabinet yn deall y pwysau sydd o’n blaenau o’r diwrnod cyntaf. Mae niferoedd dysgwyr llawn amser yn ein colegau yn codi eto ond nid yw’r cyllid yn cadw i fyny, mae penderfyniadau i’w gwneud ynghylch dyfodol cymwysterau galwedigaethol, mae penderfyniad hollbwysig i’w wneud ynghylch cefnogaeth yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth rhan-amser i oedolion. 

Mae'n hanfodol bod y gyllideb prentisiaethau a neilltuwyd yn cael ei diogelu yn y portffolio trydyddol ehangach. Mae absenoldeb targed prentisiaethau yn golygu ansicrwydd gwirioneddol ynghylch polisi sgiliau yn y dyfodol. 

Gyda thîm cabinet newydd yn ei le, mae hwn yn gyfle i ni ddyblu ein hymdrechion i sicrhau pecyn ariannu cynaliadwy ar gyfer colegau – i’n galluogi i gyflawni’r cwricwlwm craidd yn ogystal â’r holl gefnogaeth bwysig i ddysgwyr. Ni ddylem byth golli ffocws ar godi ansawdd, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â’r Ddirpwy Gweinidog i ddatblygu strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol, sy'n cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau economaidd a diwydiannol Cymru. Mae colegau'n barod i chwarae eu rhan yn yr oes newydd hon i Gymru, gan helpu i sicrhau twf a chyfleoedd newydd i'n cymunedau, a mynd i'r afael â lefelau tlodi cronig. 

Mae addysg bellach yn stori lwyddiant datganoli. Dros y pum mlynedd ar hugain diwethaf mae'r sector wedi'i drawsnewid yn union oherwydd bod arweinwyr yn barod i wneud y penderfyniadau anodd sydd eu hangen i fod yn gynaliadwy yn ariannol ac i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel. Mae colegau wedi ennill yr hawl i gael ymddiriedaeth y llywodraeth ac mae ein sector unwaith eto'n barod i chwarae ei ran wrth wynebu heriau'r dyfodol”.

Gwybodaeth Bellach 

Maniffesto ColegauCymru ar gyfer etholiad Senedd 2026 
Twf, Cyfle a Thegwch

Amy Williams, Swyddog Polisi 
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.