Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol ar ei ymchwiliad i Lwybrau Prentisiaeth. Mae'r Pwyllgor wedi cydnabod fod prentisiaethau'n allweddol i helpu dinasyddion Cymru i uwchsgilio eu hunain, yn ogystal â helpu i ddarparu'r sgiliau cywir i yrru ein heconomi ymlaen a chynhyrchu twf economaidd.
Wrth ymateb i'r canfyddiadau, dywedodd Cadeirydd Grŵp Dysgu Seiliedig ar Waith Strategol ColegauCymru, Dr Barry Walters,
“Rydym yn croesawu'r adroddiad gan Bwyllgor Economi'r Senedd. Mae'r ymchwiliad hwn wedi rhoi cyfle i'r Senedd archwilio'n fanwl gyfraniad prentisiaethau at godi lefelau sgiliau, gyrru cynhyrchiant, a chreu cymunedau gwydn. Mae colegau yng Nghymru yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Medr i dyfu a datblygu ein cynnig prentisiaethau ymhellach.
Gan weithio gyda'n gilydd rhaid inni fynd i'r afael ar frys â'r heriau o ran cynnig cyngor ac arweiniad annibynnol i'n holl ddysgwyr i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol; a sicrhau bod mwy o gefnogaeth ar gael i fentrau micro, bach a chanolig, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y rhaglen prentisiaethau a nodi talent heb ei ddefnyddio ledled Cymru. Nid yw parch cydradd yn ymwneud â chael amgylchedd polisi unffurf, ond cydnabod bod llwybrau galwedigaethol a thechnegol yn unigryw ac yr un mor werthfawr.
Mae prentisiaethau yn gyfle amhrisiadwy i unigolion "ennill a dysgu" wrth eu cyfarparu â'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y gweithle”.
Gwybodaeth Bellach
Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol - Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk