Heddiw, mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi cyhoeddi cyfres o argymhellion i adeiladu ar lwyddiannau'r sector ôl-16 hyd yn hyn, a gweithio i godi uchelgais ein pobl ifanc a darparu'r system addysg drydyddol a hyfforddiant y maent yn ei haeddu.
Mae ColegauCymru yn parhau i alw am Strategaeth Addysg Galwedigaethol genedlaethol i gysylltu addysg a hyfforddiant galwedigaethol â blaenoriaethau economaidd a diwydiannol Cymru. Byddai strategaeth genedlaethol yn darparu fframwaith arweiniol ar gyfer Cymwysterau Cymru, cyrff dyfarnu a darparwyr, a byddai'n sicrhau bod llinell glir o atebolrwydd democrataidd o fewn y system. Dylai'r strategaeth hon fynegi athroniaeth Cymru ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys pwysigrwydd asesu priodol, symud tuag at ffocws ar ddilyniant i waith, sicrhau llais cryf i ddysgwyr a chyflogwyr, a chaniatáu i golegau fodloni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol. Ar draws pob lefel, mae angen i lwybrau gefnogi dysgwyr a'u dilyniant, ac ni ddylai'r llwybrau o reidrwydd gael eu gyrru gan gymwysterau.
Mae'r Pwyllgor yn cydnabod yn briodol ddiffygion y cyngor a'r arweiniad a gynigir ar hyn o bryd yng Nghymru. Rydym yn parhau i annog bod cynnydd cyflym yn cael ei wneud i wella mynediad dysgwyr 14-19 oed at gyngor ac arweiniad annibynnol - fel y gall pobl ifanc wneud y dewisiadau cywir y tro cyntaf. Ochr yn ochr â hyn, rhaid caniatáu mynediad i golegau i ysgolion i gynnig cyngor a gwybodaeth wyneb yn wyneb i bob dysgwr fel y gallant ddeall eu hopsiynau a gwneud dewisiadau gwybodus.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
"Mae digon yn yr adroddiad y bydd colegau’n ei groesawu ac yn arbennig mae’n dda gweld y Pwyllgor yn gwneud argymhellion mor gadarnhaol ynghylch cynyddu llwybrau galwedigaethol i bobl 14-16 oed yn ogystal â phwysigrwydd cyngor ac arweiniad annibynnol. Rydyn ni’n gwybod bod cymaint o bobl ifanc yn awyddus iawn am ystod ehangach o opsiynau yn gynharach yn eu haddysg ac mae gan Lywodraeth nesaf Cymru gyfle gwirioneddol i roi’r addysg y maen nhw’n ei haeddu i bobl ifanc drwy greu Llwybr Dysgu a Chynnydd 14-19 newydd.
Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod pwysigrwydd addysg cyn-16, yn benodol gwella cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng colegau ac ysgolion, cefnogi'r cyfnod pontio i ôl-16 a chynnig rhaglenni astudio galwedigaethol rhwng 14-16. Mae absenoldeb o'r ysgol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc 14-16 oed, wedi cynyddu ar ôl y pandemig, ac mae llwybrau a chynlluniau 14-16, er enghraifft y rhaglen Prentisiaeth Iau, yn darparu cyfleoedd addysg galwedigaethol i ddysgwyr y mae ysgolion wedi'u nodi fel rhai sydd mewn perygl o ddod yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant).
Rydym yn croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor fod angen cyfeiriad strategol mwy ar y sector ôl-16, ond rydym yn pryderu y bydd yr argymhelliad o strategaeth gyffredinol yn gwanhau’r ffocws ar y newidiadau brys sydd eu hangen mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Os yw’r llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad ar gyfer strategaeth ôl-16 ehangach, yna ni all addysg a hyfforddiant galwedigaethol ddod yn ôl-feddwl."
Gwybodaeth Bellach
Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16
Maniffesto ColegauCymru ar gyfer etholiad Senedd 2026
Twf, Cyfle a Thegwch
Hydref 2025
Amy Williams, Swyddog Polisi
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk