ColegauCymru yn croesawu dychweliad Erasmus+ i'r DU

pexels-roberto-nickson-2609463.jpg

Mae ColegauCymru wedi croesawu’r cadarnhad y bydd y British Council yn gweithredu fel Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+, gan nodi cam arwyddocaol wrth ailgysylltu addysg bellach â chyfleoedd Ewropeaidd.

Mae'r cytundeb, a lofnodwyd yn ffurfiol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ar 15 Ebrill 2026, yn paratoi'r ffordd i golegau, staff a dysgwyr ledled Cymru elwa unwaith eto o'r cyfleoedd eang a gynigir trwy Erasmus+.

Bydd ailymuno â'r rhaglen yn galluogi colegau Cymru i ailgysylltu â phartneriaid Ewropeaidd dibynadwy, ailadeiladu rhwydweithiau cydweithredol, a chreu profiadau rhyngwladol newydd sy'n cyfoethogi addysgu, dysgu a datblygiad proffesiynol. Mae hefyd yn dod â'r fantais ychwanegol o gyfleoedd sydd yn ddaearyddol agosach at adref i rai dysgwyr, gan wneud cyfranogiad yn fwy hygyrch a chynhwysol.

Bydd dychweliad y rhaglen yn datgloi mynediad at fwy o gyllid ac ystod ehangach o ffrydiau ariannu, gan gefnogi symudedd, arloesedd a gweithgaredd partneriaeth ar draws y sector addysg bellach.

Dywedodd Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru,

“Mae ColegauCymru wrth eu bodd yn croesawu dychweliad Erasmus+ a phenodiad y British Council yn Asiantaeth Genedlaethol y DU. Mae hyn yn nodi adeg pwysig i’r sector addysg bellach yng Nghymru, gan agor y drws i gydweithio newydd gyda’n partneriaid Ewropeaidd.

Mae Erasmus+ wedi darparu cyfleoedd sy’n newid bywydau dysgwyr a staff. Mae ei ddychweliad nid yn unig yn cynnig y cyfle i ailgysylltu’n rhyngwladol, ond hefyd i ehangu mynediad trwy gyfleoedd mwy hyblyg ac, mewn rhai achosion, cyfleoedd agosach at adref.

Rydym wedi ein hannog yn arbennig gan y cynnydd mewn cyllid a’r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael nawr, a fydd yn helpu colegau ledled Cymru i ymgysylltu mewn ffyrdd sy’n diwallu anghenion eu dysgwyr a’u cymunedau orau.”

Mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at weithio gyda’r British Council a phartneriaid ledled y DU ac Ewrop i wneud y mwyaf o fanteision Erasmus+ ar gyfer addysg bellach yng Nghymru, ac i sicrhau bod cyfleoedd a gynigir drwy’r rhaglen yn cael eu hyrwyddo’n deg ac yn hygyrch ar draws pob sector addysg.

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth y DU
DU a'r UE yn cwblhau cytundeb i gynnwys y DU mewn Erasmus+ yn 2027

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.