Dechreuodd rownd gyntaf twrnameintiau rhanbarthol Chwaraeon Colegau Cymru ar 9 Hydref, gyda Phêl-droed Menywod ac Ability Counts yn arwain y ffordd. Mae ColegauCymru yn falch o gefnogi'r cystadlaethau chwaraeon hyn fel rhan o'n hymrwymiad i ymagwedd gynhwysol at chwaraeon a lles actif yn y sector addysg bellach.
Pêl-droed Merched
Daeth twrnamaint pêl-droed Menywod, a gynhaliwyd yn y cyfleusterau rhagorol ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru (USW) yn Nantgarw, â saith coleg o bob cwr o Gymru at ei gilydd gan dynnu sylw at gryfder y sector Addysg Bellach wrth gefnogi chwaraeon menywod.
Llongyfarchiadau i Goleg y Cymoedd, a enillodd y rownd derfynol yn erbyn Coleg Sir Gâr. Dymunwn bob lwc iddynt wrth iddynt fynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon AoC yn Nottingham ym mis Ebrill 2026.
Roedd y twrnamaint yn cynnwys timau colegau o Goleg Cambria, Coleg y Cymoedd, Grŵp Colegau NPTC, Coleg Gŵyr Abertawe, Y Coleg Merthyr Tudful, a Grŵp Llandrillo Menai, i gyd yn cyfrannu at ddiwrnod gwych o bêl-droed.
Mae ColegauCymru yn diolch i Barc Chwaraeon USW am gynnal, ac i'r holl staff, hyfforddwyr a dysgwyr a wnaeth y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant. Mae dyfodol pêl-droed menywod yn Addysg Bellach Cymru yn ddisglair, ac edrychwn ymlaen at weld y chwaraewyr talentog hyn yn parhau i ffynnu.
Pêl-droed Ability Counts
Yr hydref hwn, cynhaliodd Chwaraeon ColegauCymru ei drydedd dwrnamaint anabledd blynyddol. Bydd enillwyr digwyddiadau Gogledd Cymru a De Cymru yn mynd pen i ben am le i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon AoC fis Ebrill nesaf.
Cynhaliwyd digwyddiad pêl-droed Ability Counts De Cymru ar 10 Hydref ym Mharc Chwaraeon USW. Mae'r digwyddiad cynhwysol hwn a drefnir gan Chwaraeon ColegauCymru yn rhan o Brosiect Lles Actif ColegauCymru ac mae wedi'i gynllunio i ennyn diddordeb dysgwyr a allai brofi rhwystrau gwirioneddol neu ganfyddedig i gymryd rhan. Mae'r prosiect yn canolbwyntio'n bennaf ar ddysgwyr nad ydynt eisoes yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol neu chwaraeon, gyda phwyslais ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys anableddau dysgu, a allai arwain at rwystrau i gymryd rhan. Yr enillwyr eleni oedd Coleg y Cymoedd. Llongyfarchiadau!
Cynhaliwyd digwyddiad pêl-droed Ability Counts Gogledd Cymru ar 4 Tachwedd ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, gydag ymdeimlad ysgubol o bositifrwydd o amgylch y twrnamaint. Roedd y gêm olaf yn gystadleuaeth dynn rhwng Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai, ac ar yr achlysur hwn roedd Coleg Meirion-Dwyfor yn fuddugol. Byddant yn mynd ymlaen i gam nesaf y twrnamaint lle byddant yn cwrdd â buddugwyr y digwyddiad Ability Counts De Cymru, Coleg y Cymoedd.
Yn dilyn digwyddiad Gogledd Cymru, dywedodd Rheolwr Prosiect ColegauCymru ar gyfer Lles Actif a Chwaraeon, Rob Baynham,
"Dyma'r trydydd rhifyn blynyddol o'r digwyddiadau pêl-droed Ability Counts ac mae yna fwrlwm anhygoel o gwmpas y dydd yng Ngogledd a De Cymru.
Mae’r gallu i ymgysylltu â dysgwyr ledled Cymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol mewn amgylchedd lle gallant fynegi eu hunain a mwynhau pêl-droed gyda'u ffrindiau yn dyst i ymrwymiad colegau Addysg Bellach i sicrhau lles eu dysgwyr.
Mae'r digwyddiadau yn uchafbwynt yng nghalendr ColegauCymru, oherwydd mae'r canlyniadau i'r ddysgwyr yn anhygoel, mae pawb yn mwynhau diwrnod gwirioneddol wych.
Llongyfarchiadau i bawb sy'n cymryd rhan, edrychaf ymlaen at barhau â'r digwyddiadau yn y dyfodol."
Ychwanegodd Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Aled Jones-Griffith,
"Rydw i mor falch o'r egni a'r gwaith tîm gwych a ddangoswyd yn nhwrnamaint pêl-droed Ability Counts Gogledd Cymru. Roedd yn wych gweld cymaint o'n dysgwyr yn cymryd rhan ac yn mwynhau'r diwrnod - mae eu brwdfrydedd yn dangos ysbryd Grŵp Llandrillo Menai.
Da iawn i dîm Dolgellau am eu perfformiad trawiadol yn y rownd derfynol, a diolch yn fawr iawn i'r staff a'r dysgywr a wirfoddolwyd i sicrhau digwyddiad llwyddiannus. Rydych chi wedi helpu i greu profiad sy'n dathlu cynhwysiant, hyder a chyfeillgarwch trwy chwaraeon.
Rydym yn gyffrous i barhau i adeiladu cyfleoedd fel hyn gyda'n partneriaid i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cymryd rhan a disgleirio."
Mae digwyddiadau fel hyn yn tynnu sylw at y cyfranogiad cynyddol mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol i ddysgwyr ag anabledd dysgu mewn colegau Addysg Bellach. Edrychwn ymlaen at barhau â'n cydweithrediad â Chwaraeon Anabledd Cymru i archwilio cyfleoedd i gefnogi gwaith yn y gofod hwn.
Gwybodaeth Bellach
Chwaraeon Anabledd Cymru
Y sefydliad arweiniol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol i bobl anabl yng Nghymru.
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif
Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk