Staff colegau yn ymweld â Barcelona i ddysgu am ffyrdd arloesol o ryngwladoli addysgu a dysgu mewn addysg bellach yng Nghymru

miquel-migg-Y9Ay38pOIvM-unsplash.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o ddarparu cyfle cyffrous i’r sector addysg bellach i ddysgu am ffyrdd arloesol o ryngwladoli addysgu a dysgu mewn colegau yng Nghymru gydag ymweliad staff â Nexgen yn Barcelona.

Nexgen Careers | Giving your child the power to explore their future

Wedi'i ariannu gan Raglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Taith, cynhelir yr ymweliad rhwng 13 a 17 Chwefror 2023. Bydd yr ymweliad yn cael ei arwain gan staff ColegauCymru a bydd yn cynnwys 21 o staff o 11 o golegau ledled Cymru. Yn ogystal, bydd Emma Vincent, Swyddog Cymorth AB ar gyfer Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru newydd yn cymryd rhan yn yr ymweliad a bydd yn gweithio ochr yn ochr â hwyluswyr o Nexgen ar gyd-ddatblygu rhaglen dramor 7 i 14 diwrnod ar gyfer dysgwyr sy’n gysylltiedig â’r cymhwyster newydd. Mae Nexgen eisoes yn bartner yn rhaglenni symudedd ColegauCymru ac, yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau, eu meddylfryd a’u rhwydweithio i lwyddo yn eu dewis yrfaoedd. Rhagwelir y bydd hyn yn arwain at raglenni peilot dysgwyr tramor yn y dyfodol, wedi’u hariannu drwy Taith, gyda dysgwyr yn cyflawni elfennau o’r cymhwyster newydd tra byddant yn Sbaen.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran,

“Dyma gyfle cyffrous i’r sector archwilio ffyrdd arloesol o ryngwladoli addysgu a dysgu mewn colegau addysg bellach yng Nghymru. Bydd y bartneriaeth hon yn ein cefnogi i ddatblygu nodau ein Strategaeth Ryngwladoli i wreiddio ac integreiddio dimensiwn rhyngwladol yn fwy effeithiol yn y cwricwlwm addysg bellach. Rwy’n falch iawn bod Emma yn rhan o’r rhaglen – bydd ei harbenigedd yn ein cefnogi gyda’r datblygiad cyffrous hwn.”

Ychwanegodd Pennaeth Partneriaethau Byd-eang a Digidol Nexgen, Cecilia Nilsson,

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein cydweithwyr o Gymru ar yr ymweliad cyffrous hwn. Cenhadaeth Nexgen yw adeiladu gweithlu’r genhedlaeth nesaf, a gyrfaoedd dysgwyr sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Gyda dros 10 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda rhaglenni gan gynnwys Erasmus+ a Chynllun Turing, rydym yn gyffrous i weithio gyda Taith a ColegauCymru i gymryd y camau nesaf i ryngwladoli addysgu a dysgu mewn addysg bellach.”

Dywedodd Emma Vincent – Swyddog Cymorth AB Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru ar gyfer CBAC,

"Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru newydd ar lwyfan byd-eang. Mae'r cymhwyster newydd ac arloesol hwn wedi'i gynllunio i gefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol, a gweithgar. Bydd ymgorffori elfennau rhyngwladol i'r addysgu a'r dysgu yn gwella'r cyfleoedd y mae'r cymhwyster hwn yn eu cynnig i ddysgwyr.

Rydym yn ddiolchgar i ColegauCymru a Nexgen am gynnal y digwyddiad hwn, sy’n rhoi cyfle inni gryfhau ein partneriaeth â cholegau ledled Cymru. Bydd y digwyddiad yn ein galluogi i wella dealltwriaeth colegau o ofynion y cymhwyster ymhellach wrth iddynt baratoi i gyflwyno o fis Medi 2023.

Bydd y gweithdai hefyd yn galluogi colegau i gyd-greu gweithgareddau arloesol ac ysbrydoledig ar gyfer datblygu sgiliau, sef ffocws canolog y cymhwyster. Trwy harneisio addysgu a dysgu rhyngwladol, gallwn greu cyfleoedd ymarferol i ddysgwyr arddangos eu sgiliau."

Bydd ColegauCymru yn rhoi adborth ar ganlyniadau’r ymweliad â’r Grŵp Strategol Rhyngwladol ac yn annog cyfranogwyr i ledaenu eu dysgu o fewn eu sefydliadau eu hunain ac yn ehangach ar draws rhwydweithiau yng Nghymru.

Gwybodaeth Bellach

Taith, y Rhaglen Dysgu a Chyfnewid Rhyngwladol newydd gan Lywodraeth Cymru

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.