Colegau yn croesawu hwb cyllid ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ond yn rhybuddio am argyfwng cyllideb

2026 Senedd 1.jpg

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb atodol, sy'n cynnwys £2.5miliwn i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae'r cyllid ychwanegol hwn wedi cael ei groesawu gan y sector addysg bellach, ar adeg pan fo nifer y dysgwyr sydd â Chynlluniau Datblygu Unigol (CDU) wedi cynyddu 74% yn y flwyddyn academaidd hon. Bydd y cyllid ychwanegol yn helpu i liniaru rhai o'r pwysau ariannol a gweithredol uniongyrchol sy'n wynebu colegau sy'n cefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Rydym yn ddiolchgar i Blaid Cymru ac i Lafur Cymru am gydweithio i gyrraedd y cytundeb hwn. 

Fodd bynnag, mae argyfwng cyllidebol difrifol ac uniongyrchol yn wynebu'r sector colegau. Heddiw yng Nghymru, nid yw 56,000 o bobl ifanc mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant - ffigwr sy'n cyfateb i boblogaeth y Barri. Mae colegau yn profi galw digynsail am leoedd, ond nid yw'r cyllid yn cadw i fyny â hynny. Mae 5,000 o ddysgwyr yn astudio mewn coleg ar hyn o bryd heb y cyllid cysylltiedig. Amcangyfrifir bod diffyg cyllid o £23.5miliwn yn y sector eleni, ac rhagwelir y bydd angen o leiaf £40miliwn yn 2027/28 dim ond i adlewyrchu lefelau parhaus o gyfranogiad. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Rydym yn croesawu cytundeb cyllideb heddiw, yn enwedig y gefnogaeth i'n dysgwyr ADY, ond mae sefyllfa ehangach y gyllideb ar gyfer colegau yn peri pryder mawr. Rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru a Llafur Cymru ynghylch yr heriau o ran cyfranogiad a'r angen i adolygu pa gymorth y gellir ei ddarparu, ond ar ôl blynyddoedd o danariannu, mae'r sefyllfa'n mynd yn anghynaliadwy ac mae colegau yn wynebu toriadau sylweddol i gyllid mewn gwirionedd. Rydym yn parhau i annog pleidiau gwleidyddol i gydweithio ar gyllideb sy'n cefnogi ein dysgwyr, ein cymunedau a'n heconomi. Ni all Cymru fforddio aros.” 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad Cabinet 
Datganiad Ysgrifenedig: Datblygu system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cynaliadwy 
13 Hydref 2026 

Alex Still, Swyddog Polisi 
Alex.Still@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.