Cadarnhad o estyniadau i brosiectau Erasmus+ wedi’i derbyn

pexels-thisisengineering-3862627.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o adrodd bod rhaglenni Erasmus+ Dysgwyr 2019 ac Erasmus+ Staff 2019 wedi'u hymestyn i 31 Awst 2022 yng nghyd-destun heriau a ddaeth yn sgil pandemig Covid19. Cymeradwywyd yr arian hwn yn 2019 gyda dyddiad gorffen blaenorol o 31 Awst 2021. 
  
Mae'r newyddion hyn wedi cael eu croesawu gan bawb gan fod yr estyniad yn darparu 12 mis ychwanegol i gwblhau gweithgareddau prosiect unwaith y bydd caniatâd i ailddechrau teithio dramor. 
  
Prosiect Dysgwr Erasmus+ 
Gyda gwerth prosiect o ychydig dros €1.5m, bydd y Prosiect Dysgwr yn galluogi 624 o ddysgwyr/prentisiaid galwedigaethol i ymgymryd â lleoliadau gwaith pythefnos ledled Ewrop. Mae pob coleg addysg bellach yng Nghymru yn cymryd rhan yn y rhaglen hon a byddwn yn gweithio gyda dros 40 o bartneriaid yr UE ar draws ystod eang o feysydd cwricwlwm gan gynnwys peirianneg, gwallt a harddwch, rheoli ceffylau, ffilm a'r cyfryngau, TGCh, ac iechyd a gofal cymdeithasol. Mae pob lleoliad gwaith yn gysylltiedig â'r cymwysterau sy'n cael eu hastudio gan ddysgwyr yng Nghymru. Gall y profiadau hyn gyfrannu at gyflawni'r cymwysterau hynny yr ymgymerir â hwy, sy'n golygu bod y profiadau yn rhai dysgu go iawn! 
  
Prosiect Staff Erasmus+ 
Mae'r Prosiect Staff yn rhoi cyfle i 18 aelod o staff o golegau addysg bellach a sefydliadau allweddol eraill fel Estyn a Llywodraeth Cymru fynychu ymweliad astudio 3 diwrnod yn Stuttgart, yr Almaen. Rhoddir cyfle iddynt archwilio digideiddio Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) yn rhanbarth Baden-Württemberg. Bydd yr ymweliad yn cael ei gynnal gan y Weinyddiaeth Diwylliant, Ieuenctid a Chwaraeon. 
  
Mae digideiddio yn arbennig o bwysig nawr gan ein bod yn gynyddol ystyried yr effaith y mae Covid19 wedi'i chael ar ddulliau addysgu mwy traddodiadol. Bydd y rhaglen yn galluogi'r cyfranogwyr i ystyried y cyfeiriad polisi ar gyfer digideiddio yn y rhanbarth hwn o'r Almaen yn ogystal â’r gallu i arsylwi sut mae gwahanol strategaethau'n cael eu gweithredu ar lefel weithredol yn y colegau galwedigaethol. 
  
Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd 
Mae estyniadau pellach wedi'u caniatáu ar gyfer cyllid gan rwydwaith y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (EQF) tan fis Mawrth 2021. Yn wreiddiol, roedd y rhaglen hon i ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. 
 
Mae ColegauCymru eisoes wedi cwblhau cyfeirio'r Fframwaith Credyd a Chymwysterau ar gyfer Cymru (CQFW) i'r EQF, gydag adroddiad wedi'i lansio yn ôl ym mis Hydref 2019. 

Mae'r estyniad hwn yn newyddion i'w groesawu eto gan y bydd yn ein galluogi i gwblhau'r diweddariad o'n gwefan Sgiliau ar gyfer Ewrop ac arolwg, adroddiad a digwyddiad bwrdd crwn ar y defnydd o Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) gyda ffoaduriaid yng Nghymru. 
 
Gwybodaeth Bellach 
Cysylltwch Reolwr Prosiect Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru Siân Holleran gydag unrhyw gwestiynau. 

Bydd y Prosiect Dysgwr yn galluogi

624

o ddysgwyr/prentisiaid galwedigaethol i ymgymryd â lleoliadau gwaith pythefnos ledled Ewrop.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.