Cyfleoedd DPP am ddim i gryfhau trosglwyddo gwybodaeth rhwng athrawon mewn addysg alwedigaethol

CPGGraphic.png

Cyn bo hir, bydd ColegauCymru yn cyhoeddi canlyniadau ymchwil a gomisiynwyd sy'n edrych ar ryngwladoli yn y sector addysg bellach yng Nghymru. Un o ganfyddiadau allweddol yr ymchwil, a gwnaed gan Arad Research, yw bod lleoliadau gwaith a hyfforddiant dramor ar gyfer dysgwyr galwedigaethol trwy raglen Erasmus+ wedi cael buddion eang i'r cyfranogwyr. Y prif fudd yw’r effaith gadarnhaol ar hyder, sgiliau cyfathrebu a thwf personol dysgwyr yn ystod eu lleoliadau rhyngwladol.

Mae tystiolaeth hefyd o fuddion ar gyfer dysgu iaith dramor fodern (MFL), ond mae'r rhain yn fach ar y cyfan, ac roedd llawer o ymatebwyr yn yr ymchwil yn teimlo y dylid rhoi mwy o bwyslais ar gefnogi sgiliau iaith mewn ffordd fwy strwythuredig cyn, yn ystod ac ar ôl ymweliadau tramor i wella profiadau dysgwyr.  
 
Cyfleoedd DPP am ddim  
Hoffai ColegauCymru dynnu eich sylw at rai cyfleoedd DPP AM DDIM sy'n cael eu cynnig ar-lein ar hyn o bryd gan yr Adran Addysg yng Nghatalwnia, Sbaen.  
 
Nod y seminarau hyn yw cryfhau trosglwyddo gwybodaeth rhwng athrawon mewn addysg alwedigaethol a'u galluogi i ehangu eu rhwydweithiau ar draws ffiniau cenedlaethol i annog arloesi ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol.  
 
Bydd y gweithdy ar Ddysgu Integredig Cynnwys ac Iaith (CLIL) yn canolbwyntio ar dechnegau i ddysgu pwnc galwedigaethol trwy gyfrwng iaith ychwanegol ac yn darparu rheswm cymhellol i ddysgwyr ymgysylltu ag iaith arall a dod yn gymwys ynddo.  
 
Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru Sian Holleran,

“Credwn y bydd arfogi dysgwyr galwedigaethol â dysgu iaith mewn cyd-destun yn rhoi cyfleoedd iddynt ehangu eu gorwelion nawr ac yn y dyfodol, ac i gael y mwyaf o'r cyfleoedd tramor a gynigir iddynt drwy brosiectau symudedd ColegauCymru.”


Bydd sesiynau AM DDIM eraill hefyd yn darparu cyfleoedd rhagorol i staff gael mewnwelediadau i arferion addysgu a dysgu yn Sbaen ynghyd â dwy sesiwn addysgiadol ar y system VET ddeuol sydd ar waith yng ngwledydd eraill yr UE.  
 

Archebwch eich lle am ddim  
Tudalen Cofrestru Campws VET Rhyngwladol 2021  

Gwybodaeth Bellach  

Cysylltwch â Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Sian Holleran, gydag unrhyw gwestiynau. Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk 

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.