Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, ddatganiad ar Ddatblygiadau i gefnogi Addysg Gychwynnol Athrawona a Phroffesiynol i'r Gweithlu Addysg Drydyddol.
Wrth ymateb i'r datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygu Strategol ColegauCymru, Kelly Edwards,
“Rydym yn croesawu'r datganiad heddiw gan y Gweinidog, ac yn cefnogi ei dyheadau ar gryfhau proffesiynoli'r gweithlu addysg bellach. Mae gweithlu medrus iawn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ein dysgwyr a'n colegau. Roeddem yn falch o fod yn rhan o'r grŵp cynghori i adolygu darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon (ITE) ar gyfer addysg bellach ac rydym yn croesawu parhad y grŵp cynghori i gyflwyno rhaglen ITE effeithiol ar gyfer ymarferwyr addysg bellach ar ddechrau eu gyrfa. Mae ein staff yn allweddol i lwyddiant ein colegau addysg bellach. Rydym yn barod i barhau â'n gwaith gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector, ac mae datganiad heddiw wedi taflu goleuni croesawgar ar y gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu gweithlu addysg bellach y dyfodol”.
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Datblygiadau i gefnogi Addysg Gychwynnol i Athrawon a Phroffesiynoldeb y Gweithlu Addysg Drydyddol
26 Chwefror 2026
Amy Evans, Swyddog Polisi
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk