Mae sectorau addysg, busnes a’r trydydd sector yng Nghymru yn galw am sicrwydd y bydd cyllido ar gael yn lle’r arian a ddaw o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd

Heddiw, mae sefydliadau yng Nghymru yn y sectorau addysg, busnes a’r trydydd sector wedi cyhoeddi llythyr agored yn galw am sicrwydd y bydd cyllido ar gael i gyflenwi’r arian a ddaw o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddiad Ewropeaidd ar hyn o bryd, ac i’r cyllid hwnnw gael ei ddatganoli i Gymru.

Mae’r llythyr wedi’i arwyddo gan Brifysgolion Cymru, Colegau Cymru, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Siambr Fasnach De Cymru, Undeb y Brifysgol a'r Coleg, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Bydd yr arian a ddaw i Gymru o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddiad Ewropeaidd oddeutu £2 biliwn yn y cyfnod 2014-2020. Mae'r arian yma’n cynnal:

  • ymchwil ac arloesedd
  • y cymunedau mwyaf difreintiedig
  • pobl ifanc ac oedolion sy'n ceisio gwella eu sgiliau, canfod swyddi ac adeiladu gyrfaoedd
  • rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy

Mae'r llythyr yn gofyn i bleidiau ac ymgeiswyr yn Etholiad Cyffredinol 2019 yng Nghymru ymrwymo i sicrhau y bydd cyllido ar gael yn lle’r arian yma, a bod y cyllido’n cael ei ddatganoli i Gymru.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.