Diweddariad Dysgwyr Erasmus+

Yn dilyn newyddion am gais llwyddiannus, mae cynllunio ar gyfer prosiect Dysgwr Erasmus+ 2019 wedi dechrau. Mae Cydlynydd Ewropeaidd a Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran, wedi dechrau teithio ledled Cymru yn darparu cyfarfodydd cychwynnol Erasmus + gyda cholegau. Bydd y cyfarfodydd hyn yn trafod y camau nesaf ar gyfer y prosiect, ac yn esbonio'r broses o drefnu cyfnewid symudedd Erasmus+ llwyddiannus.

Sicrhaodd ColegauCymru dros £1.3 miliwn, a fydd yn ganiatáu i 624 o fyfyrwyr o 11 coleg ledled Cymru gymryd rhan mewn lleoliad gwaith pythefnos dramor. Mae 12 gwlad Ewropeaidd yn rhan o'r prosiect hwn, sy'n cynnig lleoliadau gwaith mewn salonau, meithrinfeydd, hyfforddiant pêl-droed proffesiynol, ymhlith eraill. Bydd y prosiect hwn hefyd yn gweld ei bartneriaeth gyntaf gyda Cyprus.

Mae prosiectau Erasmus+ yn fuddiol i bobl ifanc, gan eu bod nid yn unig yn ennill profiad o weithio dramor, ond hefyd ymdeimlad newydd o annibyniaeth. Bydd rhai dysgwyr sydd wedi cymryd rhan yn teithio dramor am y tro cyntaf.

Mae cyn-ddysgwyr wedi siarad am yr effaith gadarnhaol y mae Erasmus+ wedi’i chael arnynt. Dywedodd dysgwr Gwallt a Harddwch yn NPTC: “Yn wirioneddol, roedd y profiad yn bythefnos gorau fy mywyd. Rwyf wedi dysgu cymaint ag rwyf bellach yn sylweddoli y gallaf weithio dramor yn y dyfodol. Mae wedi agor cymaint o ddrysau i mi ac mae gen i salonau eisoes yn gofyn imi weithio iddyn nhw oherwydd y profiad hwn. Mae hyn wedi gwneud i mi sylweddoli bod gen i hefyd y potensial i agor fy musnes fy hun a bod yn llwyddiannus.”

Mae Erasmus+ yn bwysig wrth lunio bywydau pobl ifanc trwy roi cyfle na fyddent fel arall yn ei gael. Mae'n cynyddu eu hyder ac yn rhoi mewnwelediad iddynt o weithio dramor. Ar 16 Hydref, cyfarfu grŵp o ddysgwyr â Jeremy Miles, Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, i drafod yr effaith gadarnhaol y mae Erasmus+ wedi'i chael arnynt. Mae ColegauCymru yn gobeithio y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o fuddion Erasmus+, ac yn dangos pwysigrwydd cadw lleoliadau gwaith rhyngwladol i ddysgwyr coleg ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.