Hwb ariannol i golegau yw'r ffordd hawsaf o sicrhau twf economaidd, meddai penaethiaid wrth y Prif Weinidog

pexels-charlotte-may-5965691.jpg

Am y tro cyntaf ers cof byw, mae arweinwyr colegau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dod ynghyd i siarad ag un llais i annog Llywodraeth y DU i roi buddsoddi mewn addysg bellach a sgiliau wrth wraidd ei Hadolygiad Cynhwysfawr o Wariant. 

Mae'r llythyr, a lofnodwyd gan arweinwyr o Belfast i Ben-y-bont ar Ogwr a Shetland i Wlad yr Haf, yn pwysleisio rôl anhepgor colegau wrth yrru twf, creu cyfleoedd, a chyflawni cenadaethau allweddol y llywodraeth, gan gynnwys rhoi hwb i dwf economaidd. 

Darllenwch y Llythyr

Wedi'i gyhoeddi ar y cyd gan Gymdeithas y Colegau, ColegauCymru, Colegau'r Alban, a'r colegau addysg bellach yng Ngogledd Iwerddon, mae'n cefnogi uchelgeisiau'r Llywodraeth ar gyfer twf a chyfle economaidd ond yn dweud, er mwyn cyflawni'r rhain yn wirioneddol, fod yn rhaid i Whitehall fuddsoddi mwy mewn colegau a gweithio gyda nhw fel partneriaid. 

Mae'r llythyr yn crybwyll tair elfen graidd lle mae colegau'n helpu i gyflawni agenda'r Llywodraeth: 

  • Grymuso Pobl Ifanc Colegau yw'r man cychwyn i bobl ifanc, gan eu paratoi â'r addysg a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyrraedd cyflogaeth ystyrlon.
     
  • Cefnogi Diwydiant O'r GIG i adeiladu, colegau yw asgwrn cefn ein strategaeth ddiwydiannol, gan ddarparu'r sgiliau hanfodol sy'n pweru ein sectorau twf.
     
  • Hybu Oedolion Colegau yw hyrwyddwyr dysgu gydol oes, gan helpu oedolion i wella eu llythrennedd, mathemateg a sgiliau digidol, a'u galluogi i gyfrannu'n llawn at ein heconomi a'n cymunedau. 

Mae'r llythyr yn ei gwneud yn glir, heb fuddsoddiad cynaliadwy a digonol, fod y DU mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi o ran cystadleurwydd byd-eang a methu â bodloni gofynion marchnad lafur sy'n esblygu'n gyflym. 

Er bod polisi addysg a sgiliau wedi'i ddatganoli, mae'r llythyr yn pwysleisio pwysigrwydd penderfyniadau Llywodraeth y DU wrth lunio'r cyllid sydd ar gael i weinyddiaethau datganoledig. Byddai buddsoddi mewn sgiliau yn yr adolygiad gwariant, yn ôl y dadleuon, yn dangos ymrwymiad i dwf cynhwysol, ledled y wlad ac yn darparu'r adnoddau sydd eu hangen ar y llywodraethau datganoledig i gefnogi eu sectorau coleg yn iawn. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, a Phrif Weithredwr a Phennaeth Y Coleg Merthyr Tudful, Lisa Thomas, 

“Mae’r datganiad ar y cyd pwerus hwn yn adlewyrchu cryfder y teimlad ledled y DU bod rhaid i fuddsoddi mewn addysg bellach fod yn flaenoriaeth uchel i’r Prif Weinidog. Mae colegau yng Nghymru yn profi pwysau ariannol difrifol. Mae buddsoddiad ychwanegol, cynaliadwy yn hanfodol i alluogi colegau i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer diwydiannau allweddol, cefnogi ein dysgwyr, ac i gymunedau ffynnu. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i arfogi’r gweinyddiaethau datganoledig â’r cyllid sydd ei angen arnynt i sicrhau y gall colegau chwarae eu rhan lawn wrth adeiladu economi gryfach, tecach a gwyrddach.” 

Gwybodaeth Bellach 

Darllenwch y Llythyr

Clare Williams, Swyddog Polisi 
Clare.Williams@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.