Pwysau ariannol yn wynebu'r sector Addysg Bellach yn parhau'n ddifrifol

2023-11-06 14.03.38.jpg

Heddiw, mae Aelodau'r Senedd yn trafod Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Mae pwysau ariannol difrifol yn parhau i wynebu'r sector addysg bellach, ac mae'n hanfodol bod cyfraniad colegau yn cael ei gydnabod. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Mae colegau’n parhau i fod yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i’r sector addysg bellach. Fodd bynnag, cyn y ddadl yn y Senedd heddiw ar y gyllideb atodol, rhaid inni dynnu sylw at y pwysau ariannol cynyddol sy’n wynebu colegau ledled Cymru. 

Y flwyddyn academaidd hon, mae cofrestru ymhlith pobl 16 - 18 oed wedi codi 8.27% o’i gymharu â’r llynedd, gyda mwy o ddysgwyr yn dechrau ar gyrsiau galwedigaethol lefel is ac yn cyflwyno anghenion cynyddol gymhleth. 

Er bod y galw cynyddol hwn yn adlewyrchu llwyddiant a gwerth colegau, mae hefyd yn rhoi straen sylweddol ar sector sydd eisoes yn ymdopi â phwysau ariannol niferus - yn ystod y flwyddyn ac yn y tymor hir - yn dilyn sawl blwyddyn o setliadau tynn a thoriadau costau helaeth. 

Mae colegau’n parhau i ddibynnu ar ffrydiau ariannu tymor byr, sy’n ei gwneud hi’n anodd cynllunio’n effeithiol, cadw staff medrus, neu weithredu strwythurau cymorth cynaliadwy. 

Mae pwysau ychwanegol yn cynnwys y gost amcangyfrifedig o £2 filiwn o fodloni dyletswyddau anghenion dysgu ychwanegol (ADY) newydd yn 2024/25, gan godi i dros £2.7 miliwn. yn 2025/26. Mae colegau hefyd wedi gweld costau teithio dysgwyr yn codi mwy na £3.2 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Fel sefydliadau angor allweddol mewn cymunedau ledled Cymru, mae colegau yn ganolog i'n hadferiad economaidd a'n cynnydd cymdeithasol. Rydym yn annog Aeloadau'r Senedd ar draws y sbectrwm gwleidyddol i barhau i gefnogi ein colegau - ar gyfer ein dysgwyr, ein cyflogwyr, a'n cymunedau.” 

Gwybodaeth Bellach 

Clare Williams, Swyddog Polisi ColegauCymru 
Clare.Williams@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.