Fel rhan o #WythnosAddysgOedolion, rydym wrth ein bodd yn rhannu blog gan Reolwr Academaidd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Lisa O’Connor. Mae Lisa, sydd hefyd yn Aelod o Fwrdd Addysg Oedolion Cymru, yn myfyrio ar ei thaith ei hun gyda dysgu gydol oes - o gyflwyniad cynnar ac annisgwyl i addysg oedolion, i addysgu’r Gymraeg i ysbrydoli dysgwyr, a nawr yn cefnogi’r sector yn ehangach. Mae ei stori’n tynnu sylw at lawenydd, effaith a phwysigrwydd dysgu ym mhob cam o fywyd, a’r rôl rydyn ni i gyd yn ei chwarae wrth adeiladu diwylliant o ddysgu yng Nghymru.
"Ces i fy mhrofiad cyntaf o addysg i oedolion yn wyth mlwydd oed a cyn i chi ddweud dim, dwi’n gwybod, doeddwn i ddim yn oedolyn ond roedd yna gyd-destun. Roedd fy rhieni eisiau dysgu Ffrangeg er mwyn mynd ar wyliau a doedd neb ar gael i fy ngwarchod i ar noson y wers felly ces i fynd i eistedd yn y cefn gyda llyfr lliwio i’m cadw yn dawel. Fel sy’n tueddu digwydd pan fo criw o bobl mewn dosbarth am y tro cyntaf, roedd yr oedolion ychydig yn swil wrth ateb y cwestiynau a rhywle yn fy meddwl wyth mlwydd oed i, penderfynais i bod angen i fi helpu. Roeddwn i wrth fy modd yn bloeddio ‘Bonjour’ a ‘Je m’appelle Lisa’ a chwarae teg i’r athrawes a’r dosbarth amyneddgar iawn, ces i fy nghroesawu nôl am y 10 wythnos. Dwi’n sicr bod y profiad hwn wedi dechrau fy nghariad at ieithoedd ac es ymlaen i astudio Ffrangeg yn yr ysgol uwchradd ond yn rhyfedd iawn, yr ymadroddion dwi’n cofio orau yw’r rhai dysgais i yn y 10 wythnos yna mewn dosbarth cynhwysol a chefnogol – hyd yn oed i blentyn 8 oed oedd bach yn or-hyderus!
Ers hynny, dwi wedi bod yn ffodus cael profiad o symud i’r ochr arall a dysgu Cymraeg i nifer o unigolion anhygoel sy’n codi gwen pan dwi’n meddwl amdanyn nhw. Dysgais unigolyn oedd wedi cael stroc ychydig fisoedd cyn dechrau’r gwersi a ces i’r fraint o’i wylio nid yn unig yn dysgu Cymraeg ond yn dechrau adfer ei sgiliau Saesneg hefyd, unigolyn oedd eisioes wedi dysgu 6 iaith a Cymraeg oedd rhif 7, a cymaint o unigolion aeth o beidio a siarad y Gymraeg o gwbwl i fod yn gwneud cyflwyniadau a chadeirio cyfarfodydd yn Gymraeg. Pob un ar eu taith eu hunain ond gyda’r un nod, sef dysgu a datblygu sgil wedi’r cyfnod addysg orfodol.
Bellach, dwi’n cefnogi’r sector dysgu gydol oes trwy fy ngwaith gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dwi hefyd yn aelod o fwrdd Addysg Oedolion Cymru ac mae’n brofiad diddorol cael mewnwelediad i’r Gwaith o’r safbwynt hynny. Mae fy niddordeb i mewn cynyddu darpariaeth Cymraeg yn y sector drydyddol yn gyffredinol, gan sicrhau bod pobl yn gallu derbyn gwybodaeth ac addysg yn eu dewis iaith. Perthyn y Gymraeg i bawb yng Nghymru ac mae’n bwysig felly bod pob dysgwr yn cael profiad da o’r Gymraeg, boed hynny’n ychydig eiriau neu gwrs cyfan achos mae gyda pob un ohonon ni rôl werthfawr i’w chwarae wrth wireddu’r weledigaeth o filiwn o siaradwyr yn 2050."
Gwybodaeth Bellach
Wythnos Addysg Oedolion - Paid Stopio Dysgu
15 - 21 Medi 2025
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu a hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, ysgolion, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Maen nhw’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.