Prosiect adnoddau Iechyd Meddwl Addysg Bellach

Female learner with laptop.jpg

Ym mis Rhagfyr 2018, dyfarnwyd £175,000 i ColegauCymru i weithio gyda cholegau Addysg Bellach yng Nghymru ar brosiectau peilot iechyd meddwl a fyddai’n gwella’r ddarpariaeth bresennol, yn datblygu ymyriadau newydd ac yn bwysig i annog cydweithredu a rhannu arfer gorau ymhlith sefydliadau.

Gyda nawdd Llywodraeth Cymru, fel sector rydym ni wedi creu 25 o adnoddau o ganlyniad i'r prosiect hwn. Rydym yn falch o ddweud bod yr adnoddau hyn ar gael ar Hwb, gwefan adnoddau Llywodraeth Cymru o heddiw ymlaen. Mae pob un ond dau adnodd naill ai'n ddigidol yn unig neu gellir eu hargraffu fel adnodd corfforol. Mae'r holl ddeunyddiau ac adnoddau o'r cyllid prosiect hwn yn ddwyieithog gyda'r ddau ar gael ar HWB.

Mae'r adnoddau'n amrywio o offeryn adnabod i fyfyrwyr ei ddefnyddio i hunan asesu risgiau, hydwythedd a lles, rhaglen BotLles, cyrsiau hyfforddi i gefnogi staff, adnoddau i alluogi staff a myfyrwyr i ddysgu technegau ar gyfer mecanweithiau ymdopi effeithiol, ymddygiadau cymdeithasol cadarnhaol, pendantrwydd, trafodaethau, gwneud penderfyniadau ac ymlacio ac ymagweddau'r Coleg cyfan. Er bod modd rhannu'r mwyafrif o'r adnoddau ar unwaith ar gyfer y sector, mae rhai'n cynnig astudiaethau achos i alluogi eraill i ail-greu gweithgareddau, digwyddiadau a rhannu arfer da.

Mae'r prosiectau wedi bod yn werth chweil ac yn ddefnydd da o adnoddau. Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau yn y sefydliad yn dangos bod galw mawr a chynyddol am wasanaethau iechyd a lles, y mae angen eu diwallu er mwyn cefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn.

Adnoddau

Er mwyn gweld yr adnoddau, dilynwch y ddolen i wefan Hwb: hwb.gov.wales

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch ein Cydlynydd Prosiect Nia Brodrick am fwy o wybodaeth.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.