Sector Addysg Bellach yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion a gwerth addysg gydol oes

machinery work.png

Yr wythnos hon yw Wythnos Addysg Oedolion - ymgyrch flynyddol sy’n tynnu sylw at werth addysg gydol oes, yn gwneud cyfleoedd dysgu a sgiliau yn fwy hygyrch, yn dathlu cyflawniadau, ac yn ysbrydoli pobl i ddarganfod sut y gall dysgu drawsnewid bywydau. 

Mae manteision dysgu gydol oes yn amrywiol ac yn niferus - o ddarparu ymdeimlad o les, pwrpas, a chyflawniad, i fynd i'r afael â materion cymdeithasol fel unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae'r manteision hyn yn eu tro yn rhoi'r offer i gymunedau ffynnu. 

Dywedodd Prif Weithredwr Colegau Cymru, David Hagendyk, 

“Rydym wrth ein bodd unwaith eto i gefnogi Wythnos Addysg Oedolion. Yng nghyd-destun heddiw, mae cael gweithlu medrus yn bwysicach nag erioed. Mae addysg oedolion ac uwchsgilio yn chwarae rhan enfawr wrth gryfhau economi Cymru a'n cymunedau, yn enwedig yn ystod cyfnodau heriol. Nid dim ond rhywbeth braf i'w gael yw dysgu gydol oes - mae'n rhan allweddol o adeiladu Cymru gryfach a thecach. Mae'n bryd mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau a thlodi drwy addysg oedolion a mynediad at ddysgu ail gyfle”. 

Senedd 2026 
Gan edrych ymlaen at yr etholiad ym mis Mai 2026, mae gennym gyfle i roi addysg oedolion yn ôl yn y chwyddwydr. Mae hynny'n golygu mwy o gyfleoedd ar gyfer astudio rhan-amser, cyrsiau hyblyg, a chefnogaeth i bobl sydd eisiau ailsgilio, uwchsgilio, neu ddysgu rhywbeth newydd yn unig. Mae hefyd yn gyfle i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau sylfaenol yn uniongyrchol. 

Er mwyn sicrhau y gall addysg oedolion barhau i helpu cymunedau i ffynnu yng Nghymru, mae ColegauCymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru, gan weithio gyda Medr, i: 

  1. Ymrwymo i ddarparu hawl newydd i ddysgu gydol oes i bob oedolyn yng Nghymru. 
  2. Buddsoddi mewn cyflwyno Cydnabod Dysgu Blaenorol i gefnogi oedolion â'r cymwysterau lleiaf i gael cydnabyddiaeth am y sgiliau sydd ganddynt. 
  3. Cydnabod y cyfleoedd a'r heriau o ddatblygiad AI. 

Drwy arfogi unigolion â sgiliau hanfodol, meithrin hyder, a darparu rhwydweithiau cymorth hanfodol, nid yn unig y mae rhaglenni addysg oedolion yn grymuso unigolion a theuluoedd ond hefyd yn cyfrannu at weithlu mwy medrus, economi leol gryfach, a dyfodol mwy teg a chynaliadwy i bob cymuned yng Nghymru.  

Gwybodaeth Bellach 

Wythnos Addysg Oedolion - Paid Stopio Dysgu 
15 - 21 Medi 2025 

Amy Williams, Swyddog Polisi 
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.