Sector addysg bellach yn ymrwymo i helpu i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith dysgwyr

Anxious young person.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o fod wedi cyfrannu at waith pwysig ar y mater o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r sector addysg bellach i sicrhau amgylchedd dysgu diogel i bawb.

Rydym yn croesawu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru - Mae'n effeithio ar bawb - ac rydym yn cefnogi unrhyw gamau i helpu i gadw dysgwyr yn ddiogel, gan gynnwys camau pwysig ar gasglu data ac adrodd.

Yn ein hymateb i’r ymgynghoriad, gwnaeth ColegauCymru awgrymiadau ar sut i fynd i’r afael yn ymarferol â rhai o’r heriau sy’n wynebu ein colegau ar hyn o bryd, gan godi rhai o’r materion sy’n ymwneud â chasglu a dadansoddi data, wrth bwysleisio’r angen am ymagwedd gyfannol at y mater hwn.

Cawsom ein calonogi hefyd gan ymgysylltiad y Pwyllgor â dysgwyr Coleg Cambria, gan roi cipolwg ar bryderon a phrofiadau dysgwyr ar hyn o bryd, sydd wedi llywio rhai o’r argymhellion ers hynny. 

Meddai Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen,

“Mae’r materion a godir yn yr adroddiad hwn yn ddifrifol ac mae’n bwysig bod y sector addysg yn ei gyfanrwydd yn rhoi pwyslais o’r newydd ar gadw dysgwyr yn ddiogel, yn rhydd rhag aflonyddu rhywiol, a sicrhau bod pawb yn gallu ffynnu. 

Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o’r radd flaenaf, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy’n cefnogi’r gymuned ehangach, cyflogwyr a’r economi. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod ein sefydliadau addysg bellach yn lleoedd diogel a phleserus i ddysgu ynddynt.” 

Gwybodaeth Bellach 
 
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru 
Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr
Gorffennaf 2022

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.