Heddiw, mae miloedd o ddysgwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU ac yn cymryd cam pwysig tuag at eu pennod nesaf.
Hoffai ColegauCymru longyfarch pob dysgwr sy'n derbyn eu csnlyniadau heddiw. P'un a ydyn nhw'n dathlu'r graddau yr oedden nhw'n gobeithio amdanynt, yn ystyried eu camau nesaf neu'n penderfynu ar lwybr gwahanol, mae hwn yn foment arwyddocaol ac yn gyfle i edrych ymlaen at y dyfodol.
Fodd bynnag, mae diwrnod canlyniadau eleni yn dod ar adeg o bwysau digynsail ar golegau addysg bellach Cymru. Mae niferoedd record o geisiadau, ynghyd â'r argyfwng ariannu sy'n wynebu'r sector, yn golygu bod miloedd o ddysgwyr ar restrau aros coleg ar hyn o bryd a gallent gael eu gadael heb le ar gwrs ym mis Medi.
Mae dysgwyr gyda'r cymwysterau lleiaf yn destun pryder arbennig, a allai fod â chyfleoedd amgen bach iawn ar gael iddyn nhw. I'r bobl ifanc hyn, gall mynediad at le coleg fod y gwahaniaeth rhwng symud ymlaen â'u haddysg a chael eu gadael heb lwybr clir.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Llongyfarchiadau i’r holl ddysgwyr sy’n casglu eu canlyniadau TGAU heddiw. Dylai pawb fod yn hynod o falch a'u gwaith caled a'u cyflawniadau.
“Fodd bynnag, eleni mae cyfuniad o nifer record o geisiadau i goleg a'r argyfwng ariannu sy'n wynebu'r sector yn golygy bod miloedd o ddysgwyr ar restrau aros a gallent fod heb gwrs ym mis Medi. Mewn llawer o achosion, y rhain fydd y dysgwyr gyda'r lleiaf o gymwysterau ac ychydig iawn o ddrysau ar agor iddynt.
“Mae’r sector wedi rhybuddio Llywodraeth ddiwethaf a newydd Cymru am y goblygiadau i ddysgwyr, ac mae angen gweithredu ar frys i warantu cyllid ar gyfer colegau. Os ydym am roi'r dyfodol y maent yn ei haeddu i bobl ifanc, yna mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu - a gweithredu'n gyflym."
Mae colegau addygs bellach yn hanfodol i sicrhau bod gan bob dyswr cyfle i symud ymlaen, datblygu eu sgiliau ac adeiladu dyfodol cadarnhaol. Gyda'r galw am leoedd coleg ar lefelau record, mae cyllid cynaliadwy yn hanfodol i sicrhau y gall colegau ddiwallu'r galw hwnnw ac nad oes unrhyw ddysgwt yn cael ei adael ar ôl.
Y diwrnod canlyniadau TGAU hwn, rydym yn dathlu cyflawniadau dysgwyr - ond rhaid i ni hefyd sicrhau bod ganddynt rywle i fynd nesaf. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu'r cyllid sydd ei angen ar golegau ar frys i roi cyfle i bob dysgwr lwyddo.
Gwybodaeth Bellach
Beth bynnag fo'u canlyniadau TGAU, mae gan ddysgwyr gyfoeth o gyfleoedd ar gael iddynt drwy golegau Cymru, gydag ystod eang o gyrsiau, cymwysterau, prentisiaethau a llwybrau i gefnogi gwahanol ddiddordebau, uchelgeisiau a chanlyniadau.
Gall dysgwyr ddysgu mwy am gyfleoedd yn eu coleg lleol drwy gyfeiriadur colegau aelodau Colegau Cymru, neu gael cyngor a chymorth ar opsiynau ôl-16 drwy opsiynau a chymorth ôl-16 Cymru'n Gweithio.