Mynd Ymhellach ac yn Uwch: Dyfnhau cydweithrediadau rhwng colegau a phrifysgolion

casefiles.jpeg

Mae ColegauCymru wedi croesawu’n gynnes cyhoeddi adroddiad ar y cyd ar gyflymu cydweithio rhwng colegau a phrifysgolion ar draws pedair gwlad y DU. Yma, mae ein Prif Weithredwr, Iestyn Davies, yn cymryd golwg agosach.  

Mae’r adroddiad gwerthfawr hwn a gyhoeddwyd ar 7 Chwefror 2022 gan y Comisiwn Annibynnol ar Goleg y Dyfodol a’r Rhwydwaith Prifysgol Ddinesig yn archwilio pwysigrwydd perthnasoedd rhwng addysg bellach ac uwch ac yn darparu atebion pragmatig i’r heriau a wynebir gan addysg Ôl-orfodol ar draws y pedair gwlad.  

Mae’r adroddiad yn ceisio adeiladu dull mwy cydweithredol a chydlynol ar draws addysg drydyddol a sgiliau gyda’r bwriad o sicrhau bod ein colegau a’n prifysgolion, fel sefydliadau angori, yn rhannu system uno y mae’n rhaid iddynt fod yn addas ar gyfer y dyfodol, i gefnogi dysgu ar bob lefel. 

Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymruMae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion allweddol i’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, gan gynnwys cofleidio daearyddiaeth leol ac arbenigeddau sydd eisoes yn bodoli. Anogir sefydliadau i ddatblygu cynnig addysg a sgiliau cydlynol yn benodol ar gyfer pobl leol, cyflogwyr, a’r gymuned. Dylid adeiladu'r rhain o amgylch dysgu gydol oes, gan ganolbwyntio ar leihau cystadleuaeth. Mae argymhellion pellach yn cynnwys symud y tu hwnt i berthnasoedd personol ac ymgysylltu â’r sefydliad cyfan, gyda rolau wedi’u diffinio’n glir a chyfrifoldeb ar y cyd am bartneriaeth.  

Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi her a disgwyliad clir i bob sefydliad ac unigolyn sy’n gweithio ym maes addysg bellach ac uwch ac mae’n adleisio’r alwad yn ein maniffesto, Llwyddiant Pellach: Argymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru. Rhaid i sefydliadau gamu i’r adwy yn awr ac amlinellu sut y byddant yn ymateb i’r cyfleoedd a nodir gan Lywodraeth Cymru ac a gynhwysir yn yr adroddiad hwn.  

Roedd awduron yr adroddiad, a dynnwyd o sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch o bob rhan o’r pedair gwlad, hefyd yn nodi’r camau gweithredu allweddol sy’n ofynnol gan lywodraethau priodol. Maent yn argymell bod angen strategaeth uchelgeisiol 10 mlynedd i sicrhau y gellir darparu dysgu gydol oes ar lefel genedlaethol. Maent hefyd yn galw am gydbwysedd mewn cyllid ar draws addysg bellach ac addysg uwch fel y gall sefydliadau weithio gyda'i gilydd yn seiliedig ar anghenion eu dysgwyr, eu cyflogwyr a'u cymunedau lleol. Mae'r adroddiad yn galw ymhellach am gymorth cynhaliaeth gyfartal ar draws benthyciadau a grantiau i ddysgwyr addysg bellach ac addysg uwch, waeth beth fo'u hoedran, eu hamgylchiadau personol, neu eu llwybr i addysg. Bydd yn hanfodol mynd i’r afael â’r ‘canol blêr’ drwy ddiffinio rolau gwahanol ond cyflenwol i golegau a phrifysgolion er mwyn osgoi cystadleuaeth ddiangen ynghylch pa sefydliad sy’n darparu gwahanol fathau o addysg a hyfforddiant. Mae hyn yn cysylltu ag argymhellion pellach i greu un corff cyllido a rheoleiddio ar gyfer y system addysg a sgiliau Ôl-16 gyfan ym mhob gwlad i ddarparu dulliau rheoleiddio mwy cyson a chyflenwol a fydd yn sicrhau llywbr llyfnach i ddysgwyr.  

Bydd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) newydd yn effeithio ar bob darparwr Ôl-16, addysg bellach a dysgu gydol oes. Mae Cymru’n elwa o fod yn hynod o gydweithredol. Rhaid inni weithio gyda’n gilydd yn awr i gydnabod ein cryfderau a’n gwendidau gwahanol, ac i annog ymddygiad da – nid cyrraedd targedau’n unig. Bydd y Bil newydd yn ein helpu i sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at y cyrsiau cywir ar eu cyfer ac i lywio eu taith ddysgu i gyrraedd y gyrfaoedd o’u dewis yn llwyddiannus.  

Mae ColegauCymru ar hyn o bryd yn cefnogi ein haelodau drwy hwyluso trafodaeth barhaus rhwng y gwahanol rannau o’r sector Ôl-16, gyda Llywodraeth Cymru a’r rheolydd Addysg Uwch, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW). 

Gwybodaeth Bellach 

Coleg y Dyfodol 
Mynd Ymhellach ac yn Uwch: Sut mae cydweithredu rhwng colegau a phrifysgolion yn gallu trawsnewid bywydau a lleoedd 
Chwefror 2022 

Argymhellion Polisi ColegauCymru ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru 
Llwyddiant yn y dyfodol: Argymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru mewn Addysg Ôl-16 a Dysgu Gydol Oes i Gymru  
Mai 2021 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.