Digwyddiad Amlchwaraeon cynhwysol addysg bellach yn dychwelyd am y drydedd flwyddyn

DSC03590-Edit (1).jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Digwyddiad Amlchwaraeon addysg bellach Pen-bre yn dychwelyd yn 2023.

Cynhelir y Duathlon cynhwysol hwn ym Mharc Gwledig Pen-bre ddydd Mercher 10 Mai 2023, ac mae’n cynnig cyfle i ddysgwr a staff mewn lleoliadau addysg bellach gymryd rhan mewn digwyddiad amlchwaraeon am y tro cyntaf ar amrywiaeth o lefelau. Mae ein digwyddiadau blaenorol wedi croesawu amrywiaeth o ddysgwyr o ddysgwyr Sgiliau Byw Annibynnol yn mwynhau her gweithgaredd grŵp am y tro cyntaf hyd at ddysgwyr a staff yn cystadlu ar lefel elitaidd.

Dywedodd Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru,

“Mae’n digwyddiad amlchwaraeon addysg bellach yn dangos cyfeiriad newydd ar gyfer chwaraeon cystadleuol a digwyddiadau yn y sector addysg bellach, mae’r fformat hwn yn darparu un o’r ychydig gyfleoedd lle gall dysgwyr a staff gystadlu ochr yn ochr â’i gilydd, ar lefel dechreuwyr a mwy cystadleuol.”

Ychwanegodd Pennaeth Datblygu Triathlon Cymru, Amy Jenner,

“Yn Triathlon Cymru ein pwrpas yw datblygu cymuned triathlon sy’n gwella llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad unwaith eto. Mae’r duathlon yn cynnig fformat i bawb ac mae’n enghraifft wych o sut gall dysgwyr a staff elwa o fod yn acitf.”

Bydd digwyddiad 2023 unwaith eto yn canolbwyntio ar ddarparu her sy’n cofleidio egwyddorion Strategaeth Lles Actif ColegauCymru, sy’n ceisio helpu Cymru i ddod yn genedl iachach a mwy actif. Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i annog cyfranogwyr i wella eu lles trwy gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol a chymdeithasol gyda'u cyfoedion wrth fwynhau buddion rhywfaint o weithgaredd corfforol.

Mae dau opsiwn ar gael i gymryd rhan gyda phob ras wedi'i threfnu'n donnau o gyfranogwyr â galluoedd tebyg.

Go Tri Duathlon – Rhedeg 1km / Beic 4km / Rhedeg 1km

Duathlon Llawn – Rhedeg 5km / Beic 20km / Rhedeg 2.5km

Mae ColegauCymru yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein partneriaid Triathlon Cymru, Coleg Sir Gâr, AoC Sport, Beicio Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Pharc Gwledig Pen-bre.

Ariennir y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Brosiect Lles Actif ColegauCymru ac mae’n cysylltu â gweithgaredd Prosiect Lles Actif Chwaraeon Cymru yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

Sylwch fod y digwyddiad ar agor i staff a dysgwyr colegau addysg bellach yn unig.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif ColegauCymru, Rob Baynham
Robert.Baynham@colegaucymru.ac.uk

Bydd cofrestru'r digwyddiad yn cau ddydd Iau 4 Mai 2023.

Darllen pellach

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.