Digwyddiad deuathlon cynhwysol yn hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol yn y sector addysg bellach

My project (1).jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn y bydd Chwaraeon Amrywiol AB yn dychwelyd am yr eildro fis yma. Yn cael ei gynnal ym Mharc Gwledig Pen-bre ar 11 Mai 2022, bydd y digwyddiad cynhwysol yn cynnwys opsiynau deuathlon anghystadleuol a chystadleuol a bydd yn croesawu ceisiadau unigol a thîm gan ddysgwyr a staff o golegau addysg bellach. 

Gyda 250 o geisiadau o 8 coleg o bob rhan o Gymru eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan, mae’r digwyddiad hwn yn un o lawer o brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector addysg bellach i hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol trwy fynediad cynyddol at weithgareddau creadigol, chwaraeon a diwylliannol. Mae’r cyllid yn rhan o’r cynllun Adnewyddu a Diwygio a gyhoeddwyd yn hydref 2021 ac sydd wedi’i gynllunio i gefnogi pobl ifanc yr effeithiwyd arnynt yn andwyol o ganlyniad uniongyrchol i bandemig Covid19.

Mae digwyddiad Chwaraeon Amrywiol AB yn cychwyn wythnos brysur o weithgareddau chwaraeon amrywiol yn Sir Gaerfyrddin gan gynnwys deuathlon ysgol gynradd yn arwain at y Gyfres Brydeinig, Cyfres Para Prydain a digwyddiadau pencampwriaethau Cymru yn Llanelli ar 14 a 15 Mai.

Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles ColegauCymru, 

“Mae’r cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru wedi ei groesawu’n gynnes gan y sector addysg bellach. Mae ymchwil a gomisiynwyd gan ColegauCymru o fis Mehefin 2021 yn cadarnhau effaith andwyol y Pandemig ar ein pobl ifanc a phwysigrwydd lles actif wrth gefnogi adferiad.” 

Ychwanegodd Rob, 

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod iechyd a lles actif yn cael eu hariannu’n ddigonol ac ar flaen agenda pob coleg. Bydd hyn yn sicrhau bod colegau addysg bellach yn parhau i fod yn lleoedd hapus ac iach i astudio a gweithio ynddynt.”

Bydd dysgwyr o Goleg Sir Gâr yn gwirfoddoli gyda rolau megis marsialiaid a cheidwaid amser ac yn cynorthwyo pob agwedd o reoli digwyddiadau ar y diwrnod. 

Rydym yn ddiolchgar i’n holl bartneriaid am eu cefnogaeth barhaus i’r digwyddiadau hyn gan gynnwys Llywodraeth Cymru, AoC Sport, Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Coleg Sir Gâr a Chyngor Sir Caerfyrddin.   

Gwybodaeth Bellach   

Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles ColegauCymru 
Rob.Baynham@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.