Dylanwadu, Arloesi, Defnyddio, Cofleidio - Codi proffil Lles Actif mewn Colegau Addysg Bellach

12.06.15 MH College Sports Cardiff 42.JPG

Sut gall colegau addysg bellach gynyddu ymwybyddiaeth a dathlu eu gwaith wrth wella lles dysgwyr a staff? Yn benodol, cyflawni prosiectau sy'n herio effaith negyddol y pandemig Covid19 ar les emosiynol, cymdeithasol a chorfforol cymunedau colegau. 

Er mwyn helpu ateb y cwestiwn hwn mae ColegauCymru wedi cynhyrchu canllaw rhyngweithiol ar gyfer y prosiect Lles Actif a ddyluniwyd i gefnogi pob agwedd o gyfathrebu prosiect ar draws ystod o lwyfannau. 

Yn ddiweddar, daeth staff prosiect, rheolwyr ac arweinwyr ifanc ynghyd ar gyfer sesiwn hyfforddi gyda chefnogaeth partneriaid allanol gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Llysgenhadon Ifanc Cymru ac UPSHOT. Rhannwyd arfer da gan golegau hefyd gan gynnwys cyflwyniad gan Hannah Hughes, Swyddog Ymgysylltu Rygbi Grwp Llandrillo Menai ar ei Rhaglen Llysgenhadon Gweithredol. 

Heriwyd y sesiwn i feddwl sut y gallent weithio tuag at amcanion strategol dylanwadu, arloesi, defnyddio a chofleidio, gyda'r defnydd o dechnoleg newydd a sgiliau dysgwyr ifanc yn drafodaethau allweddol. Roedd rhai o'r prif bynciau i'w trafod yn cynnwys: 

  • Dylanwad, sut i gysylltu profiadau prosiect â chynulleidfaoedd targed i gefnogi datblygiad yn y dyfodol 
  • Arloesi, gan wneud cysylltiadau â CLIP (Rhaglen newydd Cyfathrebu, Dysgu a Mewnwelediad Chwaraeon Cymru) a nodi cyfleoedd i ymgysylltu gan ddefnyddio technoleg newydd a chyfryngau cymdeithasol 
  • Defnyddio, gan wneud defnydd o wefan newydd ColegauCymru a’r rhwydweithiau presennol ar lefel coleg, rhanbarthol a chenedlaethol 
  • Cofleidiwch, y ffordd orau i annog dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau cyfryngau cymdeithasol wrth greu cynnwys gwych o weithgaredd prosiect, gan ddarparu profiad gwerthfawr yn y broses 

Ymhlith y cyflwynwyr allanol roedd Paul Batcup, Rheolwr Cyfathrebu Digidol Chwaraeon Cymru a Sophie Morris, Grŵp Llywio Cenedlaethol Llysgenhadon Ifanc, gan ddarparu gwybodaeth a mewnwelediad gwerthfawr o'r sector chwaraeon a gwaith llysgenhadon ifanc.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch Rheolwr Prosiect Chwaraeon ColegauCymru, Rob Baynham am fwy o wybodaeth.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.