Strategaeth Rhyngwladoli ColegauCymru - Cwestiynau Cyffredin

pexels-haley-black-2087391.jpg

Mae Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru Siân Holleran yn ateb rhai cwestiynau allweddol mewn perthynas â'r Strategaeth newydd. 

Pam datblygu Strategaeth Rhyngwladoli ar gyfer y sector addysg bellach yng Nghymru? 
 
Comisiynodd ColegauCymru adroddiad ymchwil yn 2020 o’r enw Rhyngwladoli yn y sector addysg bellach yng Nghymru. Un o argymhellion allweddol yr adroddiad oedd datblygu gweledigaeth strategol ar gyfer y sector a fyddai’n codi dyheadau dysgwyr ac yn ehangu eu gorwelion, yn llywio arfer proffesiynol ac yn gwella’r ddarpariaeth yn ogystal â chodi proffil gwaith rhyngwladol yn y sector addysg bellach. 

Beth yw’r blaenoriaethau strategol allweddol? 
 
Mae gan y Strategaeth bedair blaenoriaeth allweddol: 

  • Profiadau byd-eang ysbrydoledig i staff a dysgwyr Defnyddio Taith a chyllid rhaglennu symudedd arall i hwyluso cyfleoedd tramor cyffrous 
  • Arweinyddiaeth, addysgu a dysgu Archwilio sut i ymgorffori profiadau rhyngwladol yn y cwricwlwm addysg bellach 
  • Partneriaethau pwrpasol a hyrwyddo Cymru Datblygu partneriaethau yng Nghymru a thramor i gynyddu ymgysylltiad rhyngwladol y sector 
  • Datblygu busnes rhyngwladol Anelu at feithrin gallu o fewn y sector i fanteisio ar gyfleoedd masnachol rhyngwladol  

Sut y byddwch yn monitro gweithrediad y Strategaeth? 
 
Fe wnaethom sefydlu Grŵp Rhyngwladol Strategol yn 2021 gyda chynrychiolwyr o bob coleg addysg bellach ledled Cymru. Datblygodd y Grŵp hwn y Strategaeth Ryngwladoli ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar gynllun gweithredu ar gyfer y tymor byr, canolig a hir. Bydd y cynllun hwn hefyd yn disgrifio ein mesurau llwyddiant. 

Beth fydd y manteision i ddysgwyr a staff? 
 
Ein nod fydd darparu mynediad cyfartal i gyfleoedd tramor i bob dysgwr a staff addysg bellach. I ddysgwyr, bydd profiadau tramor yn ehangu eu gorwelion ac yn codi eu dyheadau gan wneud cyfraniad cadarnhaol at eu cynnydd trwy addysg ac ymlaen i gyflogaeth yn y dyfodol. Bydd staff  addysg bellach yn cael cyfleoedd i rannu arfer gorau gyda chydweithwyr dramor, cymryd rhan mewn hyfforddiant neu gysgodi swyddi ar draws y byd yn ogystal â rhannu’r gwersi a ddysgwyd gyda’u sefydliadau yng Nghymru. 
5. Sut gall colegau addysg bellach gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn? 
 
Cynrychiolir pob coleg ar y Grŵp Rhyngwladol a rhennir cyfleoedd i gymryd rhan mewn cyfleoedd tramor yn rheolaidd. Fel arall, cysylltwch â Siân Holleran neu Vicky Thomas am ragor o wybodaeth. 

Gwybodaeth Bellach

Stratagaeth Rhyngwladoli ColegauCymru i ehangu gorwelion addysgu a dysgu mewn addysg bellach
26 Medi 2022

Strategaeth Rhynwladoli ColegauCymru
Medi 2022

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.