Ymunwch â ni ym mis Tachwedd: Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2026

24-10-24-Cynhadledd_Colegau_Cymru__070.jpg

Mae ColegauCymru wrth ein bodd i gadarnhau y bydd ein Cynhadledd Flynyddol yn cael ei chynnal ddydd Iau 5 Tachwedd 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Rydym yn falch o groesawu Agored Cymru fel ein prif noddwr unwaith eto, gan barhau â'u cefnogaeth werthfawr i'r sector a’r digwyddiad blaenllaw hwn.

Daw Cynhadledd eleni ar adeg hollbwysig i addysg bellach yng Nghymru. Bydd y digwyddiad, a gynhelir ychydig fisoedd ar ôl Etholiad y Senedd, yn canolbwyntio ar Wneud yr Achos dros Newid: blaenoriaethau addysg bellach ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru.

Gan ddod â dros 200 o randdeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant o bob cwr o Gymru a thu hwnt ynghyd, bydd y Gynhadledd yn darparu cyfle amserol i lunio'r sgwrs ynghylch dyfodol y sector.

Trwy raglen o drafodaethau panel, gweithdai rhyngweithiol a chyfleoedd rhwydweithio, bydd cynrychiolwyr yn archwilio sut y gall colegau fod wrth wraidd agenda Llywodraeth newydd Cymru -cefnogi dysgwyr, cryfhau cymunedau, a gyrru twf economaidd ledled Cymru.

Bydd y Gynhadledd yn ystyried blaenoriaethau'r sector ar gyfer y blynyddoedd i ddod, gan wneud achos clir a chyfunol dros newid, a thynnu sylw at y rôl hanfodol y mae'n rhaid i addysg bellach ei chwarae wrth ddarparu cyfle, tegwch a ffyniant i bawb.

Bydd manylion pellach, gan gynnwys y rhaglen lawn a manylion y siaradwyr, yn cael eu rhannu maes o law. Yn y cyfamser, nodwch y dyddiad ac edrychwch allan am wybodaeth gofrestru.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu ym mis Tachwedd.

Gwybodaeth Bellach

Am wybodaeth yn ymwneud â'r Gynhadledd neu gyfleoedd noddi, cysylltwch â Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.