Senedd Cymru: Llythyr at Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Pwysau Cyllidebol yn y Sector Addysg Bellach
Dyddiad Cau ar gyfer ymateb: 11 Medi 2026
Mae ColegauCymru wedi ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor y Blynyeddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, gan amlinellu’r pwysau ariannol brys sy’n wynebu sector addysg bellach Cymru a’r camau sydd eu hangen er mwyn sicrhau y gall colegau barhau i ateb y galw cynyddol gan ddysgwyr.
Mae’r cyflwyniad yn tynnu sylw at y ffaith bod colegau’n gweld lefelau cyfranogi digynsail, gyda disgwyl i bron i 5,000 o ddysgwyr fynychu coleg eleni heb gyllid cyfatebol. Mae’n rhybuddio bod cannoedd o bobl ifanc eisoes wedi methu â sicrhau lle mewn coleg, gan gynyddu’r risg y bydd mwy o bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Mae ColegauCymru yn pwysleisio bod y sector dan bwysau sylweddol, gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau cymorth i ddysgwyr, ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chyflwyno’r cwricwlwm. Rydym yn rhybuddio, heb ymyrraeth frys, bod risg o ansefydlogrwydd ariannol, gostyngiadau yn y ddarpariaeth a cholli swyddi ledled y sector.
Mae’r ymateb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol ar unwaith er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau ar gyfranogiad yn 2026-27, ac i ariannu model cyllido addysg bellach yn llawn o 2027-28 ymlaen. Mae’n dadlau bod buddsoddi mewn colegau yn hanfodol er mwyn cefnogi dysgwyr, mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, lleihau lefelau NEET, a sicrhau bod gan Gymru’r sgiliau sydd eu hangen i dyfu’r economi a gwella cynhyrchiant.
Gwybodaeth Bellach
Alex Still, Rheolwr Polisi
Alex.Still@ColegauCymru.ac.uk