Gweminar Gwneud y Cysylltiad - Lles Actif a Chwaraeon mewn Addysg Bellach

Yn dilyn canfyddiadau dau adroddiad annibynnol sy'n edrych i mewn i effeithiau pandemig Covid19 ar chwaraeon a lles mewn colegau addysg bellach ledled Cymru, trafododd ein gweminar sut mae angen gwell dealltwriaeth o'r cysylltiad rhwng gweithgareddau a lles mewn lleoliadau cyflwyno a gwerthuso.

Rydym yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS, am ei mewnbwn gwerthfawr yn ystod y sesiwn. Os gwnaethoch chi golli'r weminar, mae cyfle i wylio eto. 
 

Craffu ar les, dysgwyr chwaraeon Addysg Bellach a'r adferiad Covid19 - cefnogi dyfodol Chwaraeon Cymru 

Nododd yr ymchwil hon angen i ail-ymgysylltu â phobl ifanc a gweithlu'r dyfodol mewn chwaraeon, oherwydd colli cyfleoedd i hyfforddi a gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Edrychodd yr adroddiad hefyd ar y dychweliad i chwaraeon a'r effaith negyddol ar nifer y merched sy'n cofrestru ac yn cymryd rhan ar raglenni chwaraeon ar hyn o bryd. Mae'n amlwg bod nawr angen canolbwyntio'n benodol ar hyrwyddo chwaraeon cystadleuol menywod. 

Darllenwch yr Adroddiad


Gwerth Lles Actif mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru 

Canfu’r ymchwil hon fod gan les actif lawer o fuddion posibl ac y gellid ei ddefnyddio fel model iechyd meddwl ataliol cynaliadwy. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod dull cynhwysol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyfathrebu yn allweddol i sicrhau lles dysgwyr a staff ar draws colegau addysg bellach yn y dyfodol. 

Darllenwch yr Adroddiad

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.