Medr: Ymgynghoriad ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau

Llangefni - Joinery (4).jpg

Ymateb Ymghynghoriad

Medr/2026/31: Ymgynghoriad ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau
Dyddiad Cau ar gyfer ymateb: 30 Gorffennaf 2026

Mae ColegauCymru wedi croesawu llwybrau prentisiaeth Adeiliadu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu arfaethedig a'u potensial i gryfhau datblygiad sgiliau, cefnogi cyflogwyr, a mynd i'r afael ag anghenion y gweithlu presennol a'r dyfodol. Croesawon ni gynlluniau i gyflwyno llwybrau Lefel 2 dwyieithog wedi'u hariannu a'r dull hyblyg o ymdrin â gofynion Sgiliau Hanfodol Cymru ar draws y fframweithiau.

Croesawom hefyd gynnwys cymwysterau ychwanegol newydd o fewn llwybr Oergelloedd, Aerdymheru, Gwresogi a Phympiau Gwres Lefel 3. Fodd bynnag, pwysleisiom bwysigrwydd cyllid digonol, cyfleusterau arbenigol a staff â chymwysterau priodol i sicrhau darpariaeth lwyddiannus. Gan edrych ymlaen, mae ColegauCymru yn argymell bod adolygiadau fframweithiau yn y dyfodol yn rhoi mwy o bwyslais ar gynaliadwyedd ac arferion adeiladu carbon isel i adlewyrchu anghenion esblygol diwydiant.

Ailadroddon ni hefyd ein galw blaenorol i gyflwyno Prentisiaethau Sylfaen Lefel 2 mewn Plastro Soled a Pheintio ac Addurno, ceisio eglurhad ynghylch absenoldeb y llwybr Sgaffaldiau o'r ymgynghoriad, a nodi bod ein sylwadau'n cael eu gwneud ar y ddealltwriaeth bod y cynigion wedi'u datblygu a'u cymeradwyo trwy ymgysylltu a chydweithio priodol ar draws y sector.

Gwybodaeth Bellach

Jeff Protheroe, Uwch Gynghorydd - Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.