Rhaid i ddarpariaeth iechyd meddwl a dysgu cyfunol gael ei hariannu'n llawn i fodloni argymhellion Estyn

Female learner with laptop.jpg

Heddiw mae ColegauCymru wedi croesawu canfyddiadau dau adroddiad thematig a gyhoeddwyd gan Estyn, gan edrych ar y gefnogaeth sydd ar gael i iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr; a datblygiadau mewn ymarfer dysgu o bell a chymysg.


Ers amser, rydym wedi hyrwyddo pwysigrwydd darpariaeth iechyd meddwl yn y sector addysg bellach. Mae pandemig Covid19 wedi gweld colegau yn addasu i ffordd newydd o weithredu gyda niferoedd cynyddol o bobl ifanc yn dysgu o gartref neu'n yn gyfunol. O ganlyniad, mae bellach angen meysydd newydd a phenodol o ddarpariaeth iechyd meddwl i fynd i'r afael â materion fel allgáu digidol a phryder cymdeithasol.


Dywedodd Cadeirydd Grŵp y Strategaeth Lles Actif ColegauCymru, Simon Pirotte,

"Rydym yn cydnabod y gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Mae adroddiadau Estyn yn atgyfnerthu'r angen am gyllid digonol i gefnogi darpariaeth iechyd meddwl a digidol yn y dyfodol. Nid darparwyr addysg yn unig yw sefydliadau addysg bellach. Maent hefyd yn sefydliadau angor yn eu cymunedau. Maent yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr o bob oed, ym mhob lleoliad."


Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae'r adroddiadau yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir. Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr sicrhau bod darpariaeth iechyd meddwl a chynhwysiant digidol yn cael ei hariannu'n llawn, er mwyn gallu cwrdd â'r Argymhellion a wnaed gan Estyn wrth inni symud ymlaen trwy gyfnod ansicr parhaus”.


Mae dau o Argymhellion Polisi ColegauCymru ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau lles dysgwyr a staff, ac am hawl ddigidol ddigonol i bob dysgwr. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda chydweithwyr y llywodraeth a phartneriaid o bob rhan o'r sector addysg i sicrhau bod y ddarpariaeth a'r gefnogaeth fwyaf priodol ar gael.

Gwybodaeth Bellach

Adroddiad Thematig Estyn
Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr
23 Mawrth 2021
 
Adroddiad Thematig Estyn
Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol
23 Mawrth 2021
 
Argymhelliad Polisi ColegauCymru
Hawl dysgwyr a staff i lesiant
Mawrth 2021
 
Argymhelliad Polisi ColegauCymru
Ehangu hawl ac ymgysylltiad dinasyddion ag addysg
Mawrth 2021
 
Stori Newyddion Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yn dwbli cefnogaeth am ddull gweithredu ‘ysgol gyfan’ o ran iechyd meddwl
23 Ionawr 2021

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.