Astudiaeth Achos – Prentisiaeth Cerbyd Modur

Wrth i ni ddathlu Wythnos Prentisiaeth Llywodraeth Cymru 2022, rydym yn dysgu sut y llwyddodd Hywel Jackson, myfyriwr Peirianneg Fecanyddol Lefel 3, i wireddu breuddwyd o weithio yn Fformiwla 1. 

Sicrhaodd Hywel, cyn-fyfyriwr Peirianneg Fecanyddol Lefel 3 Coleg Sir Benfro, brentisiaeth y bu galw mawr amdani gyda Mercedes F1 yn 2019. Brwydrodd Hywel yn erbyn cystadleuaeth galed i sicrhau’r brentisiaeth tair blynedd gyda Mercedes F1 AMG High-Performance Powertrains yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu’r cwmni ym Mrixworth. 

Mae Prentisiaethau Mercedes F1 wedi'u hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ac maent ar gael mewn gweithgynhyrchu, profi, cydosod ac adeiladu. Mae’r rhaglen brentisiaeth yn darparu’r llinell gychwyn berffaith ar gyfer gyrfa yn y byd moduro gan roi’r cyfle i brentisiaid wella perfformiad yr Uned Bŵer Hybrid sydd wedi ennill Pencampwriaeth y Byd Mercedes-AMG. 

Yn beiriannydd brwd a dawnus, roedd Hywel yn un o dros gant i ymgeisio am le gyda thîm Mercedes F1. Yn ystod y broses gyfweld ddwys, bu'n ofynnol i Hywel gymryd rhan mewn ymarfer adeiladu tîm a oedd yn cynnwys cael dyfais ffrwydrol allan o berygl, a rhoi cyflwyniad ar ei brosiect diwedd blwyddyn - modiwl rasio dan reolaeth yn cynnwys bwi hwylio hunanyredig wedi'i ddylunio ar gyfer un gweithredwr i reoli tri marciwr o dir ar gyfer rasys cychod. Roedd Hywel yn un o ddau ymgeisydd yn unig i gael cynnig prentisiaeth yn dechrau ym mis Medi. 

Yn dilyn cynnig lle gyda Mercedes F1, mynegodd Hywel ei fod yn falch o sicrhau prentisiaeth ei freuddwydion: 

“Rwy’n teimlo’n ffodus fy mod wedi cael y cyfle hwn i weithio i Mercedes F1. Rwy'n falch bod fy ymdrechion wedi talu ar ei ganfed. Rwy’n ddiolchgar i’r holl staff peirianneg am yr arweiniad a’r cymorth y maent wedi’u rhoi i mi dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd yr hyn rydw i wedi’i ddysgu yn y coleg ac yn y diwydiant yn fy helpu i gyrraedd fy nod o ddod yn dechnegydd rasio F1 ar ôl gorffen y brentisiaeth tair blynedd.” 

Soniodd darlithydd Peirianneg Coleg Sir Benfro Will Bateman ar ba mor falch yr oedd o Hywel sydd hefyd wedi gorffen adfer Beetle Volkswagen 1973 yn ddiweddar:

“Ers y diwrnod cyntaf roedd yn amlwg bod Hywel yn ddysgwr rhagorol. Mae ei drefniadaeth a'i ymrwymiad i gywirdeb yn berffaith. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, cynigiwyd chwe phrentisiaeth anhygoel i Hywel; mae'n dyst i gredu yn y freuddwyd a chyrraedd y nod terfynol hwnnw. Rydym mor falch o Hywel ac yn dymuno pob llwyddiant iddo i’r dyfodol.” 

Mae Hywel wedi darganfod yn ddiweddar y bydd yn gweithio 12 ras fel technegydd ochr y trac ar gyfer y tymor nesaf o F1. Wrth deithio o gwmpas gyda'r tîm bydd yn dechnegydd injan i McLaren gan mai Mercedes sy’n darparu'r injans. Bydd yn gwneud hyn tra yn nhrydedd flwyddyn ei brentisiaeth. 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.