Bob blwyddyn mae mwy na 20,000 o ddysgwyr yn dechrau fframwaith prentisiaeth yng Nghymru. Prentisiaethau yw conglfaen strategaeth sgiliau Llywodraeth Cymru, gan roi cyfle i unigolion "ennill a dysgu" wrth eu cyfarparu â'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y gweithle.
Mae Medr yn ymgynghori ar Raglen Prentisiaethau'r Dyfodol yng Nghymru. Yr wythnos hon, cyfarfu Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar gyfer Prentisiaethau i drafod dyfodol y rhaglen.
Dan gadeiryddiaeth yr hyrwyddwr prentisiaethau Joyce Watson AS, ac yng nghwmni Llefarydd Addysg Plaid Cymru Cefin Campbell AS, daeth y cyfarfod â cholegau a darparwyr hyfforddiant annibynnol ynghyd, i drafod sut i adeiladu ar lwyddiannau’r rhaglen brentisiaeth yng Nghymru hyd yn hyn, i greu rhaglen sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Rhaid diffinio prentisiaethau'n glir o fewn Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ehangach i Gymru, gan ddefnyddio iaith hygyrch. Rhaid i'r rhaglen newydd fod yn gynhwysol, gan gefnogi pob oedran a chefndir, yn enwedig y rhai sy'n newydd i swyddi, gyda phwyslais cryf ar iechyd meddwl, lles, a chefnogaeth cofleidiol i brentisiaid. Bydd marchnata a chyngor gyrfaoedd gwell i bobl iau, yn enwedig i siaradwyr Cymraeg, yn hanfodol i hybu cyfranogiad.
Ar hyn o bryd, mae fframweithiau prentisiaeth yn nodi'r gofynion ar gyfer cwblhau prentisiaeth mewn galwedigaeth benodol. Bydd mwy o hyblygrwydd a symud i fframweithiau mwy modiwlaidd gyda llai o opsiynau ond ehangach yn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr a chyflogwyr yn well. Wrth i'r rhaglen newydd ddatblygu, bydd ymgysylltiad cyflogwyr yn hanfodol, yn enwedig ymhlith microfusnesau a busnesau bach a chanolig niferus Cymru, sydd angen cymorth wedi'i deilwra a mynediad symlach. Er mwyn cefnogi cyflogwyr, bydd colegau’n parhau i weithredu fel ‘siop un stop’, gan gynnig prentisiaethau a chyflogadwyedd a sgiliau ehangach, gan y bydd anghenion eu gweithlu yn amrywio. Mae'n hanfodol bod ansawdd prentisiaethau'n cael ei fesur y tu hwnt i gyfraddau cwblhau, gan ymgorffori dilyniant, boddhad prentisiaid a chyflogwyr, a chymorth ar gyfer unrhyw anghenion dysgu ychwanegol unigolion. Rhaid trawsnewid y model ariannu yn y dyfodol tuag at ddull tymor hir, mwy hyblyg a chynaliadwy i sicrhau bod y rhaglen yn gwasanaethu anghenion prentisiaid, cyflogwyr a'r economi yn well.
Mae ymgynghoriad Medr yn dilyn darn sylweddol o waith gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, Llwybrau prentisiaeth, a daflodd oleuni ar y rôl y mae prentisiaethau'n ei chwarae wrth helpu dinasyddion i uwchsgilio eu hunain, yn ogystal â darparu'r sgiliau cywir i yrru ein heconomi ymlaen a chynhyrchu twf economaidd.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Rydym yn croesawu’r ymgynghoriad hwn gan Medr. Mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i sicrhau bod y system yn gweithio i ddysgwyr, darparwyr a busnesau - heddiw ac yn y dyfodol. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan hanfodol wrth roi cyfle i bobl o bob oed a chefndir ennill sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ac sy’n sicrhau dyfodol economaidd Cymru. Rydym yn ddiolchgar i’r Grŵp Trawsbleidiol am gyfrannu. Mae angen i ni bweru’r genhedlaeth nesaf o swyddi newydd yn y sector preifat a helpu i ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae rhaglen brentisiaeth newydd yn hanfodol i’r llwyddiant hwnnw.”
Senedd 2026 - Tyfu’r economi
Gan edrych ymlaen at etholiad Senedd 2026, mae Colegau Cymru yn glir, er mwyn tyfu’r economi, fod yn rhaid i ddiwydiant gael gweithlu medrus iawn i ymdopi â heriau economi sy’n newid yn gyflym, wedi’i llunio gan y newid i sero net a datblygiad deallusrwydd artiffisial. Bydd Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, i Gymru wedi'i hategu gan Awdurdod Sgiliau'r Dyfodol ac ymrwymiad newydd i brentisiaethau o ansawdd uchel, yn hanfodol i sicrhau bod dysgwyr, darparwyr a busnesau'n barod i ddiwallu anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol.
I ymuno â lansiad maniffesto ColegauCymru ar 8 Hydref 2025, anfonwch e-bost at Tanwen.James@ColegauCymru.ac.uk.
Bydd ColegauCymru, fel ysgrifenyddiaeth ar y cyd y Grŵp Trawsbleidiol ochr yn ochr â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn parhau i gefnogi'r gwaith pwysig hwn yn yr wythnosau nesaf wrth i ymatebion i'r ymgynghoriad gael eu datblygu.
Gwybodaeth Bellach
Ymgynghoriad Medr
Medr/2025/17: Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru
Adroddiad Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd
Llwybrau prentisiaeth
Mehefin 2025
Jeff Protheroe, Ymgynghorydd Strategol, Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk