Yn dilyn llwyddiant digwyddiadau Amlchwaraeon Addysg Bellach y llynedd, mae ColegauCymru wrth ein bodd i gyhoeddi dychweliad dau ddigwyddiad duathlon cyffrous ym mis Mai. Bydd y digwyddiadau cynhwysol hyn yn dod â dysgwyr, colegau a phartneriaid cymunedol ynghyd i ddathlu chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chyfranogiad i bawb.
Wedi'u trefnu mewn cydweithrediad â Triathlon Cymru a rhwydwaith eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol, nod digwyddiadau Amlchwaraeon Addysg Bellach 2025 yw rhoi cyfle i ddysgwyr o bob gallu roi cynnig ar gamp newydd, meithrin hyder a chysylltu â'u cyfoedion mewn amgylchedd cefnogol ac actif.
Gyda dros 500 o gofrestriadau eisoes wedi'u derbyn gan golegau ledled Cymru a Lloegr, mae'r digwyddiadau'n cynnig dau opsiwn:
-
Duathlon Lawn: Rhedeg 5km / beicio 20km / rhedeg 2.5km
-
Go Tri: Rhedeg 1km / beicio 4km / rhedeg 1km - wedi'i gynllunio fel opsiwn cynhwysol ar gyfer dysgwyr llai actif a'r rhai sy'n newydd i chwaraeon cystadleuol.
Y Rhyl, Gogledd Cymru - 6 Mai 2025
Cynhelir y digwyddiad cyntaf ar 6 Mai yn y Rhyl, a gynhelir mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai. Gyda chefnogaeth Y Bartneriaeth Awyr Agored, Actif Gogledd Cymru, Always Aim High, Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Athletau Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, a Chwaraeon AoC, bydd tua 130 o gyfranogwyr yn y digwyddiad gyda 80% o'r dysgwyr hyn yn anabl neu gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Pen-bre, De Cymru - 14 Mai 2025
Mae'r ail ddigwyddiad yn symud i Ben-bre ar 14 Mai, a gynhelir mewn cydweithrediad â Choleg Sir Gâr a chefnogir gan Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Athletau Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Chwaraeon AoC, Cyngor Sir Caerfyrddin, a Castell Howell. Wedi'i osod yn erbyn cefndir golygfaol Parc Gwledig Pen-bre, bydd cyfle gan dros 400 o ddysgwyr a staff i gymryd rhan a chystadlu gyda'i gilydd ar lefelau dechreuwyr ac elitaidd.
Dathlu Cymuned a Lles
Mae digwyddiad Pen-bre yn cyd-daro ag Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (12 - 18 Mai), sydd eleni'n canolbwyntio ar Gymuned. Mae bod yn rhan o gymuned gefnogol a chadarnhaol yn hanfodol ar gyfer iechyd meddwl a lles. Mae'r digwyddiadau hyn yn adlewyrchu'r thema honno trwy annog cysylltiadau cymdeithasol cryf a gefnogir gan fod yn actif gyda ffrindiau a chydweithwyr.
Mae'r digwyddiadau amlchwaraeon hefyd yn ymgorffori egwyddorion Strategaeth Lles Active ColegauCymru, gan hyrwyddo ffyrdd o fyw iachach a mwy actif ledled Cymru. Gyda ffocws cryf ar gynhwysiant, lles, a datblygu sgiliau personol a chymdeithasol, mae'r digwyddiadau hyn wedi dod yn uchafbwynt hir-ddisgwyliedig i ddysgwyr a staff fel ei gilydd.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Lles Actif ColegauCymru, Rob Baynham,
"Mae'r digwyddiadau hyn yn enghraifft wych o sut y gall colegau a phartneriaid gydweithio i hyrwyddo gweithgaredd corfforol a lles. Maent yn gynhwysol, yn hwyl, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r hyder a'r cysylltiad y mae dysgwyr yn ei deimlo o fewn cymunedau eu coleg."
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
"Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gweithgarwch corfforol a lles mewn addysg bellach. Mae'r digwyddiadau amlchwaraeon hyn yn gyfle gwych i gefnogi iechyd meddwl a chorfforol dysgwyr, ac rydym yn falch o weld cydweithio mor gryf ar draws y sector i'w gyflawni."
Gwybodaeth Bellach
Strategaeth Lles Actif ColegauCymru
2020 - 2025
Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon
Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk